Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/108

Gwirwyd y dudalen hon

wnaeth gryn lawer i agor fy llygaid i wir seyllfa y ffeithiau, trwy gyfres o lythyrau, y rhai, flynyddau yn ol, a ymddangosasant mewn newyddiadur boreuol, a'r rhai, wedi hynny, a gyhoeddwyd mewn cyfrol fechan, yr hon yr wyf yn ei hargymhell i sylw pawb sydd yn teimlo dyddordeb yn y mater."

Yn 1884, daeth argraffiad newydd allan o'r Gyfrol hon, ac ychwanegwyd yn ei diwedd rai Traethodau ar yr un mater. Yr oedd y Llythyrau a'r Traethodau wedi eu hysgrifennu mewn iaith goeth a chlir, fel y medrai Mr. Richard wneud, ac eto mewn iaith gref a phendant, ac weithiau gyda chryn dipyn o watwareg; ond bob amser yn llawn o ffeithiau cadarn a diysgog yn cael eu gwasgu adref gyda nerth anwrthwynebol. Mae yr holl gopiau o'r llyfr bellach wedi eu gwerthu, ac y mae yn anhawdd cyfarfod â chopi yn un man. Gresyn nad ail argreffid y llyfr, fel y gwelo Cymry y dyddiau hyn mor rwymedig ydynt i Mr. Richard am eu hamddiffyn mor effeithiol pan oedd gwir angen am hynny. Nid yw gofod yn caniatau i ni roddi dyfyniadau helaeth o'r llythyrau meistrolgar hyn, ond nis gallwn ymatal rhag ceisio rhoi crynodeb o'u cynhwysiad. Credwn y bydd hynny yn well na phigo darnau anghysylltiol yma ac acw fel esiamplau.

Yn y llythyr cyntaf cawn hanes sefyllfa