Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/126

Gwirwyd y dudalen hon

yn y lle a gynhaliai y drydedd ran o'r bobl, a bu raid i Mr. Richard eu hannerch yn fyr yn Gymraeg, yn yr awyr agored, ac yna aeth cynifer ag a allai i'r capel Anibynnol. Un peth dyddorol iawn ynglŷn â'r cyfarfodydd hyn oedd nifer y gweithwyr cyffredin a gymerent ran ynddynt. Traddododd llawer o honynt areithiau ag oedd yn dangos gwybodaeth boliticaidd, a difrifoldeb llawn o arabedd, a hyawdledd cenhedlaethol, ag oedd yn taflu y cyfarfodydd i'r hwyliau mwyaf cyffrous."


Nid rhyfedd, gan hynny, fod y cyfrif ar ddydd yr etholiad fel y canlyn,-

Mr. Henry Richard . . . . . . . . 11,667
Mr. Richard Fothergill . . . . . . 7,613
Yr Anrhydeddus H. A. Bruce . . 5,797

Parhaodd Mr. Richard i gynrychioli Merthyr yn Senedd am ugain mlynedd.

Er bod 23 o aelodau Rhyddfrydig wedi eu dewis dros Gymru ymysg mwyafrif mawr Mr. Gladstone, sef 120, buan y daethpwyd i edrych ar Mr. Richard, ac y galwyd ef mewn modd arbennig, "yr aelod dros Gymru.” Yr oedd ei areithiau ar adeg ei etholiad yn rhai ardderchog. Ni chelodd un o'i egwyddorion, ac, fel y gellid tybied, cafodd cydraddoldeb crefyddol, ac yn neilltuol ei hoff bwnc, Heddwch, le arbennig ynddynt. Ceisiodd rhai ei ddiystyrru am ei fod yn bregethwr, ond ymffrostiai efe yn y ffaith, ac nid oedd un amser, hyd ddiwedd ei oes, yn