Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/148

Gwirwyd y dudalen hon

wedi gorfodi Rwsia i ymostwng i delerau gyda golwg ar longau rhyfel yn y Môr Du nad oedd yn teimlo yn esmwyth danynt; nac yn eu hystyried yn deg. A phan y mae unrhyw Allu yn cael ei orfodi i wneud peth, nid yw yn debyg y pery i wneud y peth hwnnw yn hwy nag y gwel y cyfleustra i ymwingo allan o'r ymrwymiad. Pan welodd Rwsia fod gan Ffrainc ddigon o waith ar ei llaw ei hun, ac nad oedd yn bosibl iddi geisio helpu Prydain, fel yn amser rhyfel y Crimea, danfonodd rybudd at y Galluoedd oedd wedi llaw-nodi Cytundeb Paris, nad oedd am ymostwng yn hwy i'r gorthrwm. Nis gellir cyfiawnhau Rwsia yn yr achos hwn ar dir tegwch a chyfiawnder. Cytundeb ydyw cytundeb, a dylai gwledydd, fel personnau unigol, gadw ato. Ond y gwir yw, fod y Galluoedd yn fynych yn barod i dorri cytundeb heb gywilyddio dim, os bydd hynny yn fantais iddynt. Mae yn resyn dweud fod Lloegr wedi gwneud hynny lawer gwaith. Nid oedd y wlad hon yn malio nemawr, mae'n wir, am delerau Cytundeb Paris ynddynt eu hunain. Yr oedd wedi dod i weled mai yn ofer ac am ddim yr ymladdwyd brwydrau gwaedlyd y Crimea. Eto, yr oedd y dull y tynnai Rwsia allan o'i hymrwymiad yn anioddefol gan lawer yn y wlad hon. Nid gofyn am gyfnewidiad yn y telerau