oedd yn cael ei hoffi a'i barchu; fel "apostol heddwch" llafuriodd yn mwy na neb yn ei ddydd, a gwnaeth argraff annileadwy er daioni ar y deyrnas hon, ac ar wahanol deyrnasoedd Ewrob, ie, a'r byd; ac fel gwleidyddwr dadleuodd dros fesurau sydd, ac a fyddant, o anhraethol werth i'w genedl a'r deyrnas yn gyffredinol. Carai ei wlad—hen wlad ei dadau—yn angerddol, ond carai gyfiawnder yn fwy. Er cryfed ei wladgarwch, ni pheidiai a nodi beiau ei gydgenedl, ac nid anghofiai hawliau teg cenhedloedd ereill. Yr oedd ei ymlyniad wrth egwyddor, ei ymgysegriad i ddyledswydd, ei ymroddiad i wasanaethu achos dynoliaeth, gwareiddiad, ac iawnder cyffredinol, yn cyfansoddi neilltuolion pennaf ei fywyd. A'r hyn sydd yn adlewyrchu anrhydedd mwy na'r cyfan ar ei enw da yw, ei fod wedi arwain bywyd mor bur a dilychwin, fel nad allai ei elyn, os oedd ganddo un, gyfeirio at ddim a wnaeth, nad oedd yn gydweddol â chymeriad disgybl cywir i'r "Cyfiawn a'r Santaidd" hwnnw y bu mor ffyddlon yn ei ddilyn.
Bywyd a gwaith y gŵr enwog hwn yr ydym am geisio ei ddesgrifio. Anturiwn ar y gorchwyl oddi ar deimlad o hoffter o honno, a pharch tuag ato. Dymunem drwytho ein hysbryd ein hunain o'r newydd â'i esiampl a'i egwyddorion a hyderwn y bydd darllen hanes y fath gymeriad