Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/167

Gwirwyd y dudalen hon

550 o filiynnau o bunnau bob blwyddyn. Yna rhoddodd ddesgrifiad byw ac effeithiol iawn o'r dosbarth gweithiol yn gorfod llafurio yn galed, ar ac o dan y ddaear, er ennill arian, ac eto fod rhyfel yn dod heibio bob blwyddyn ac yn ysgubo dros bum can miliwn o'r enillion hynny o'u dwylaw. A gwaeth na hynny drachefn oedd yr orfodaeth a arferid ymhob man yn Ewrob, oddigerth yn y wlad hon, i gael dynion i'r fyddin. Nododd yn fanwl y trueni oedd ynglŷn â hynny. Ac er yr holl symiau a gymerid fel hyn o logellau y bobl, yr oedd teyrnasoedd Ewrob wedi suddo mewn dyled. Yr oedd ei restr o'r dyledion hyn o eiddo y gwahanol deyrnasoedd yn rhwym o beri syndod mawr. Cyfrifai Mr. Baxter fod 88p. o bob cant o drethoedd Ewrob yn myned at gostau rhyfel. Honnai rhai mai y llwybr goreu i osgoi rhyfel oedd ymarfogi, a dadleuant hen ddihareb Lladinaidd, Si vis precem para bellum. Ni fu erioed, meddai, syniad mwy unfyd. Nid oedd ond yr un peth a phe llenwid selerydd ein tai â phylor, a phob math o elfennau dinistriol, a gadael i'r plant chwareu eu pranciau yno, gyda thân yn eu dwylaw, a honni mai dyna'r moddion goreu i atal i'r tŷ fyned yn goelcerth, Yr oedd y sefyllfa yma ar bethau yn ddiau yn alaethus. Cofier nad oedd dim terfyn ar y dull