Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/183

Gwirwyd y dudalen hon

rhai y buasai yn dda ganddynt eich gweled a'ch clywed. Prin y cawsom amser i drefnu y croesawiad hwn cyn eich dychweliad i Loegr, ac yr ydym yng nghanol ein darpariadau ar gyfer y Nadolig.… Y mae gennyf bentwr o lythyrau yn cynnwys datganiadau o ofid nas gallai yr ysgrifenwyr fod yn bresennol. Y maent oddiwrth rai o wŷr mwyaf dylanwadol pob dosbarth yn ein mysg. Ond, er hyn oll, chwi welwch y nifer o honom sydd yn bresennol, a chwi welwch ein bod yn cynrychioli Ynadon, Institute Ffrainc, Cymdeithasau Dysgeidiaeth, Trafnidaeth, a Gwyddoreg. Y mae bron bob un o'r newyddiaduron yma, trwy foneddwyr sydd yn disgwyl clywed eich geiriau, a'u danfon at y rhai nad allasent fod yn bresennol. Siaradwch, gan hynny, canys y mae ein clustiau a'n calonnau yn agored. Yn enw pawb sydd yn bresennol, a chyn i ni roddi i chwi ein llongyfarchiadau, yr wyf yn eich cyfarch ar ran y lleill. Caniatewch i mi ddyweud unwaith eto eich bod wedi ennill ein cydymdeimlad a'n parch."

Ar ol yr araeth ganmoliaethol a gwresog hon, bu raid i Mr. Richard wneud yr araeth y mae gohebydd y Daily Telegraph yn rhoi crynhodeb o honni fel y nodwyd.

Ni raid dweud fod Mr. Richard yn ystod y daith hynod hon wedi defnyddio ei holl funudau hamddennol i weled y gwahanol olygfeydd ar y Cyfandir, ac y mae ei ddyddlyfr yn cynnwys desgrifiad manwl о rai o honynt, ac o'r gwŷr enwog a gyfarfu. Ond nid oedd ganddo lawer o oriau segur; oblegid yr oedd ei holl fryd ar