rhagorol yn symbyliad i'n darllenwyr—y rhai ieuanc ohonynt yn arbennig—i arwain yr un bywyd pur a llafurus.
Ganwyd Mr. Henry Richard yn Nhregaron, swydd Aberteifi, ar y 3ydd o Ebrill, 1812. Yr oedd ei dad, Ebenezer Richard, a'i ewythr, Thomas Richard, yn ddau o'r pregethwyr mwyaf enwog ymysg y Methodistiaid Calfinaidd. Mae eu henwau yn perarogli yn hyfryd yng Nghymru hyd y dydd hwn. Nid oes neb a ddarllenodd Hanes Bywyd y Parch. Ebenezer Richard, gan ei feibion, E. W. Richard a Henry Richard, gwrthrych yr hanes hwn; Methodistiaeth Cymru, gan y diweddar Barch. John Hughes, Lerpwl; y bennod ddoniol ar "Hen Bregethwyr Cymru," gan y diweddar Dr. Owen Thomas, yng Nghofiant John Jones, Talsarn, a'r Tadau Methodistaidd, gan y Parch. J. Morgan Jones, nad yw yn gwybod am enwogrwydd y cyff yr hanodd Mr. Henry Richard o honno. Bu ei daid, Henry Richard, yn cadw ysgol, ac yr oedd hefyd yn bregethwr cymeradwy gyda'r Methodistiaid Calfinaidd. Am Ebenezer Richard, ei dad, ni fendithiwyd unrhyw gyfundeb â gweinidog mwy ffyddlon a defnyddiol nag ef. Fel pregethwr, yr oedd ymysg y rhai enwocaf yn ei ddydd. Meddai fedrusrwydd dihafal gyda'r Ysgol Sabothol, ac