Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/197

Gwirwyd y dudalen hon

yn pregethu mor anfynych ar Heddwch, ac erfyniai arnynt gymeryd y cwestiwn i fyny, ac i bregethu o leiaf un bregeth yn y flwyddyn ar y mater pwysig hwn.

Cwynai Mr. Richard ar achlysuron ereill oherwydd hyn. Ac nid heb achos. Pa nifer o ryfeloedd Prydain a wrthwynebwyd gan y fainc esgobol? Ni chafwyd ond dau esgob i wrthwynebu y rhyfel anghyfiawn yn erbyn yr America gynt! Mor lleied o weinidogion yr efengyl a godasant eu llef yn erbyn rhyfel diangenrhaid y Crimea, a'r un modd gyda'r rhyfel presennol yn Affrica. Gwyddom mai nid y pulpud ydyw y lle i drin materion politicaidd, ond credwn y dylid ei ddefnyddio i gondemnio ysbryd rhyfelgar, dialgar, a chreulon y bobl pan y cymer feddiant o honynt. Yr oedd y proffwydi yn ddigon eofn i godi eu llef yn erbyn pechodau llywodraethwyr y tir. Pan y mae Arglwydd Wolseley, er engraifft, yn ei Soldiers Pocket Book yn gwawdio gonestrwydd a geirwiredd, tybed na ddylai fod gan y pulpud air i'w ddweud ar y mater?