Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/232

Gwirwyd y dudalen hon

cyfleustra a gaffai i amddiffyn cymeriad a buddiannau ei wlad. Mae holl fywyd Mr. Richard ar ol hynny yn dangos gyda'r fath lwyredd y cadwodd at y penderfyniadau hyn. Pan oedd y gweithfeydd wedi sefyll yn ardaloedd Merthyr, gwnaeth Mr. Richard bob ymdrech i godi cronfa er cynorthwyo y gweithwyr, a chasglwyd yn agos i 5,000p., a threuliodd ddyddiau lawer yn y gymdogaeth er mwyn cael allan wir sefyllfa pethau.