Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/233

Gwirwyd y dudalen hon

PENNOD XV

Mr. Richard yn Aelod o'r Departmental Committee ar Addysg yng Nghymru—Erthygl Esgob Llandaff ac atebiad Mr. Richard—Ei Araeth yn y Senedd ar Achos Borneo.

(1880) Yn y flwyddyn 1880, darfu i Arglwydd Spencer wahodd Mr. Richard i fod yn aelod o'r Departmental Committee neu Ddirprwyaeth i chwilio i mewn i achos Addysg yng Nghymru. Arglwydd Aberdare oedd cadeirydd y pwyllgor, ac Arglwydd Emlyn, Proffeswr Rhys, Mr. Lewis Norris, a'r Canon Robinson o York oedd y lleill. Yr oedd yn beth newydd ar y ddaear, ebe y Parch. Daniel Rowlands, M.A., yn y Traethodydd am 1888, fod y fath bwyll-gor yn cael ei benodi i edrych i mewn i sefyllfa Addysg Ganolraddol ac Uwchraddol yng Nghymru, ac y mae yn ddiameu na fu Prif Weinidog erioed yn y deyrnas, oddieithr Mr. Gladstone, ag y buasai y fath benodiad o dan ei lywodraeth yn bosibl. Yr oedd hefyd yn un o'r pethau rhyfeddaf gweled y fath wr a Mr. Richard yn cael ei benodi ar y fath bwyllgor. Nid, bid sicr, am ei fod yn ddifater am addysg,