Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/247

Gwirwyd y dudalen hon

PENNOD XVI

Yr helynt yn yr Aifft—Areithiau Mr. Richard yn y Senedd ar y cwestiwn—Ymddistwyddiad Mr. Bright—Ei araeth yn erbyn blwydd-dal Arglwydd Wolseley a'r Llyngesydd Seymour—Y rhyfel yn y Soudan—Araeth Mr. Richard arno—Yr ymgais i Waredu Gordon.


(1882) Yn y flwyddyn hon y cododd y cyffro yn yr Aifft, yr hwn a dynnodd sylw cyffredinol ar y pryd, ac a barodd y fath ganlyniadau alaethus ar ol hynny; a'r rhai, yn wir, sydd yn aros hyd y dydd hwn. Gwelodd Mr. Richard fod y cwmwl yn ymgrynhoi, a pharai bryder mawr iddo. Cododd yr helynt trwy fod pobl arianog yn Ffrainc a'r wlad hon wedi rhoddi benthyg arian ar log uchel i Ismael Pasha, yr hwn oedd yn talu treth flynyddol i Twrci, ac yn dal y teitl Khedive. Trwy ei fod yn wastraffus, suddodd i ddyled drom; methai dalu y llogau i'r gwŷr yr oedd yn eu dyled, a bu raid iddo werthu ei gyfrannau yng Nghamlas Suez am bedair miliwn o bunnau, y rhai a brynwyd gan y wlad hon o dan weinyddiaeth Arglwydd Beaconsfield. Ond gwaeth yr oedd pethau yn