Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/254

Gwirwyd y dudalen hon

Mr. Bright wedi cyfaddef wrth Mr. Richard fod ei araeth ef ar dan-beleniad Alexandria wedi prysuro ei ymddiswyddiad.[1]

Yr oedd llawer yn edrych ar wrthwynebiad Mr. Richard i'r hyn a wnaed yn yr Aifft yn ddim amgen na chanlyniad naturiol ei syniadau am ryfel yn gyffredinol. I wrthweithio hynny, dywedai ar ddechreu ei araeth yn y Senedd, nad felly yr ydoedd. Nid oedd efe erioed, meddai, wedi gwthio y syniadau hynny ar y Tŷ, oblegid yr oedd yn argyhoeddiadol mai nid diogel fyddai apelio at egwyddorion pur Cristionogaeth yn y fath le.

"Gallwn," meddai, "fod yn Gristionogion aiddgar, ie, gwaedwyllt, bron, yn y Tŷ hwn ar brydiau, yn enwedig pan y bydd yn dwyn perthynas â chydnabyddiaeth allanol a defodol o Gristionogaeth. Ond ni fyddai neb yn ddiogel rhag cael ei wawdio yma ped anturiai ddwyn ein gwladweiniaeth genedlaethol, ac yn neilltuol ein gwladweiniaeth dramor, i gael ei phrofi wrth safon

egwyddorion moesoldeb pur Cristionogaeth."

  1. Dywed Mr. William Jones, yn ei Quaker Campaigns in Peace and War, i John Bright ddweud wrtho ar ol hyrny,—"Gwelais Arglwydd Granrille y prynhawn cyn y tan-beleniad, a sicrhaodd i mi fod popeth yn myned ymlaen yn iawn yn yr Aifft. Drannoeth daeth y newydd am ddinistr yr Amddiffynfeydd. Syrthiodd y newydd ar y Cyfrin Gyngor fel taranfollt. Synwyd pawb oherwydd y tro ar bethau, a phenderfynais nas gallwn yn hwy fod yn aelod o'r Weinyddiaeth."