Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/261

Gwirwyd y dudalen hon

lân, gan ei fod wedi codi ei lef o'r dechreu yn erbyn pob cam a gymerwyd. Beiai y Toriaid, yn bennaf, am eu bod wedi ymyrryd mor ddiachos ar y cychwyn, ac am eu bod y pryd hwnnw eto yn gwneud a allent i hyrddio y Weinyddiaeth ymlaen ym mhellach. Gwnaeth ymosodiad trwm iawn arnynt am hyn. Ond nid oedd, meddai, am arbed y Weinyddiaeth bresennol. Cyflawnodd hithau bechodau lawer. Dylasai y Cyfrin Gynghor ymwrthod â gwladlywiad eu rhagflaenwyr yn yr Aifft, fel y gwnaethant yn Afghanistan, yn y Transvaal, ac yn Zululand. Ni ddylasent ddanfon llynges i ddyfroedd yr Aifft, nid oedd ond taflu yr awenau o'u dwylaw i ddwylaw milwyr; ni ddylasent ymyrryd yn achos y Soudan, ac yn wir, yr oeddent wedi penderfynnu ar y dechreu i beidio. Dywedasai y Prif Weinidog nad oedd un achos cyfreithlon gennym dros ymyrryd. Ymostyngasant i gri annoeth y lluaws. Cenhadwri heddychol oedd un Gordon i fod ar y dechreu, ond troes allan fel arall. Gofynnai pa hawl oedd gennym ni i ymladd yn erbyn y Soudaniaid? Yr oeddent, fel yr addefai Arglwydd Hartington, wedi codi yn erbyn un o'r llywodraethau mwyaf creulon a fu erioed. Dywedasai Syr William Baker y buasai efe ei hun, pe yn y Soudan, yn codi yn erbyn y Llywodraeth.