Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/266

Gwirwyd y dudalen hon

ragorol ar yr achlysur. Datganai ei obaith y byddai iddynt osod o'r naill du bob eiddigedd lleol, sectaidd a chenedlaethol, ac ymuno mewn cydgordiad perffaith i ddatblygu y Coleg i'r eithaf; ac wrth y Cymry hynny, y rhai a ymddangosent fel yn erbyn i'r Saeson gymeryd rhan yn yr anturiaeth, dywedai,—"Nid oes arnaf ofn y Saxoniaid." Yr oedd yn barod i ymladd â hwynt, ond nid gyda'r hen arfau, sef cleddyfau a gwaewffyn, ond yn ysbryd yr arysgrifen uwch ben y Coleg, "Goreu arf, arf dysg," a dywedai yn chwareus, y cyfarfyddai â'r Saxoniaid a'r arf yma, ac y gorchfygai hwynt hefyd,

Y mae yn iawn crybwyll hefyd, fod Mr. Richard wedi gwneud ei oreu i alw sylw at y ffaith nad oedd Ymneilltuwyr yn cael y rhan â deilyngent o swyddau gan y Llywodraeth Ryddfrydol, ac ysgrifennodd lythyr cryf at Mr. Gladstone ar yr achos; a phan ddaeth yr adeg i benodi dau ddirprwywr Elusen ychwanegol o dan y ddeddf, anturiodd Mr. Richard enwi rhai cymwys i'r swydd. Wrth gwrs, nid oedd efe ei hun yn gofalu am swydd, a gwyddai Mr. Gladstone hynny yn dda. Dewiswyd Mr. Anstie, ac mewn llythyr at Mr. Gladstone, wedi hynny, diolchodd Mr. Richard iddo am hynny.

Yn 1883, dygodd Mr. Richard ei Fesur Claddfeydd i mewn, ac ar yr ail ddarlleniad,