Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/267

Gwirwyd y dudalen hon

cymeradwyodd Syr William Harcourt egwyddor y Mesur; ond gwrthwynebwyd ef gan y blaid Doriaidd, a siaradwyd ef allan. Cariwyd yr ail ddarlleniad ym 1884, ond nid aeth ddim pellach y pryd hwnnw.

Yr oedd Mr. Richard, yn y flwyddyn 1884, yn 72 mlwydd oed. Mewn atebiad i lythyr a ddanfonasom ato i'w longyfarch ar ei etholiad yn 1880, gan ddymuno iddo hir oes i wasanaethu ei genedl am flynyddau lawer yn y dyfodol, dywed, —

"Yr wyf yn cofio yn dda eich bod wedi bod mor garedig a chyfeirio ataf fel un cymhwys i gynrychioli rhyw barth o Gymru yn y Senedd flynyddau yn ol. Ychydig a feddyliais y pryd hwnnw y deuai hynny byth i ben, a bellach nid oes gennyf ond gofidio na fuasai wedi cymeryd lle yn gynt, ac yna gallaswn wneud gwasanaeth mewn mwy nag un achos da. Yr wyf yn teimlo yn awr ei fod braidd yn hwyr mewn bywyd i ddechreu gyrfa boliticaidd. Pa fodd bynnag, yr wyf yn gobeithio fy mod wedi gallu, ac y byddaf eto yn gallu gwneud rhyw ychydig o ddaioni."

Oedd, yr oedd Mr. Richard wedi gwneud, nid ychydig, ond llawer iawn o ddaioni eisoes yn y Senedd, ac wedi ennill safle o barch a dylanwad, nid fel yr "aelod dros Gymru" yn unig, ond fel "Apostol Heddwch" ac Amddiffynwr rhyddid crefyddol. Ni fyddai byth yn siarad