Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/273

Gwirwyd y dudalen hon

ddiswyddo neu gosbi y neb fyddai wedi ei ddechreu. Er engraifft, nid oedd neb yn fwy gwrthwynebol i'r rhyfel yn Afghanistan na Mr. Fawcett, yr hwn a ddywedai, wedi hynny, ei fod wedi gwneud a allai i alw y Senedd ynghyd cyn y cyhoeddid rhyfel, gan gwbl gredu, pe llwyddasai, "na fuasid byth yn dechreu y rhyfel." Ie, dyna'r drwg; nid oedd y wlad yn cael y y wybodaeth angenrheidiol, hyd nes y byddai yn rhy ddiweddar. Nid oedd efe, Mr. Richard, yn gwybod ond am un engraifft o’r Weinyddiaeth ei hun yn rhoi terfyn ar ryfel wedi iddo ddechreu, sef yn y Transvaal. Deallodd Gweinyddiaeth Mr. Gladstone ein bod wedi ein camarwain gan ein swyddogion yn Affrica, a therfynwyd y rhyfel hyd yn oed wedi i fyddin Prydain gael ei gorchfygu; a chredai efe, Mr. Richard, fod hon yn un o'r gweithredoedd mwyaf mawrfrydig mewn Gwladweiniaeth Gristionogol yn hanes ein gwlad. (Cym.) Ond pan ofynwyd am yr arian i gario rhyfel yr Aifft ymlaen, yr oedd wedi ei ddechreu, yr oedd Alexandria wedi ei than-belennu, a'r ddinas fawr honno o 170,000 o drigolion wedi ei dinistrio; nid gennym ni yn uniongyrchol, mae'n wir, ond eto mewn canlyniad i'r hyn a wnaethom ni. Taflodd Mr. Richard olwg dros y rhyfeloedd diangenrhaid a ymladdwyd o bryd i bryd, a dywedai, os edrychwn ar