Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/277

Gwirwyd y dudalen hon

sefydlog y wlad, yn beryglus i'r Cyfansoddiad, ac yn galw am gyfryngiad y Tŷ fel ag i wneud cymeradwyo y fath weithred beryglus yn hollol amhosibl."[1]

Mor hawdd, onite, ydyw gosod egwyddorion teg a chyfiawn i lawr; ond mor anhawdd ydyw eu cario allan pan y mae yn rhaid croesi hen arferiadau wrth wneud hynny.

Yn ystod yr holl amser hwn, nid oedd Mr. Richard yn anghofio ei rwymedigaethau i Gymru. Bu yn gweithredu fel Cadeirydd Pwyllgor yr Aelodau Cymreig, ac y mae yn ddiameu, fod ei brofiad a'i bwyll yn werthfawr iawn.

(1885) Datgorfforwyd y Senedd 18fed o fis Tachwedd, 1885. Petrusai Mr. Richard yn fawr a wnai gynnyg ei hun i'r etholwyr drachefn. Yr oedd yn hen, a'i iechyd heb fod yn dda, ac yr oedd wedi eu gwasanaethu bellach am ddwy-flynedd-ar-byntheg. Ond ni ollyngent eu gafael ynddo, a dewiswyd ef am y bedwaredd waith, a hynny yn ddi-wrthwynebiad. Daliodd Cymru yn ffyddlon wrth Mr. Gladstone. Allan o 34 o aelodau (yn cynnwys Swydd Mynwy), yr oedd 30 yn Rhyddfrydwyr, a dim ond un o honynt yn erbyn Datgysylltiad.

Agorwyd y Senedd newydd ar y 12fed o

  1. Hansard. Cyf. CXLIV., t.d. 115. Chwef. 3, 1857.