Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/288

Gwirwyd y dudalen hon

gymdeithasau dirgelaid, a chyfarfodydd canol-nosawl, a chyngreirwyr ffugweddol, mewn cymhariaeth i'r perygl sydd yn llechu o dan yr iaith anadnabyddus hon, er fod, neu fe ddylai fod, ym mhob plwyf gyfarthgi gofalus, rhan o waith yr hwn ydyw gwylied a rhoddi rhybudd amserol i'r awdurdodau, mewn byd ac eglwys, o'r cynllwynion drygionus yn erbyn cyfraith ac iawn drefn sydd yn llercian o dan orchudd yr iaith Gymraeg? I ychwanegu yr ofnadwyaeth, cymerir darnau detholedig wedi eu difynnu i ddibenion cyffrous, a chyfieithir a chyhoeddir hwynt fel engreifftiau o'r Wasg Gymreig. Gwneir esboniadau arnynt gyda'r amcan i beri fod pob un a'u darllenro i gael ei ddychrynnu gymaint, fel y byddo ei wallt yn sefyll ar ei ben, like quills upon the fretful porcupine. Diau fod llawer o bethau ffol a gwyllt yn ymddangos weithiau yn y papurau Cymraeg, fel y maent yn ddigon aml yn y papurau Saesneg. Ni fyddai dim yn haws i ryw un feddai ddigon o amynedd a hoffter at ddrygsawredd, na dethol allan hyd yn oed o dudalennau papurau sydd yn proffesu digllonedd at y Wasg Gymreig, ddarnau na fyddent yn gynlluniau perffaith o synwyr da a chwaeth dda, os na fyddent yn wir, yn ffiaidd oherwydd eu heithafiaeth a'u gwrthuni.

"Yn awr, nid ydyw ond teg fod pobl Prydain yn cael gwybod am yr ystrywiau hyn sydd yn cael eu cario ymlaen ar gost pobl Cymru trwy gyfrwng rhan o'r Wasg Seisnig. Heb hynny, byddai yn anhawdd deall pa fodd y mae dynion sydd yn proffesu bod yn Gymry, ac yn wir yn Wladgarwyr Cymreig aiddgar, yn gwneud eu goreu i osod yn destynau gwawd a ffieiddiad, sefydliadau a dosbarthiadau o ddynion y rhai sydd yn cael eu parchu gan y rhan fwyaf o'n cydwladwyr. Beth ydyw ystyr yr ymosodiad a wneir yn erbyn enwadau