Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/29

Gwirwyd y dudalen hon

addawai gymeryd "pob cam angenrheidiol yn yr achos pwysig hwn, heb un oediad pechadurus ar y naill law, nac, yr wy'n gobeithio, un byrbwylldra gwyllt ar y llaw arall," Ymawyddai y llanc i gael mwy o addysg, a chan nad oedd gan y Methodistiaid un Athrofa ar y pryd, penderfynodd fyned i Athrofa Anibynnol Highbury yn Llundain. Gosododd y tad y mater ger bron y Cyfarfod Misol, ac ni chafodd un gwrthwynebiad. Mae yn fwy na thebyg fod y parch a goleddid at Mr. Ebenezer Richard, a'r dylanwad a feddai mewn canlyniad, yn atal ymddangosiad y culni hwnnw a ddangoswyd yn achos y diweddar Dr. Lewis Edwards mewn amgylchiad cyffelyb. Cafodd Mr. Richard dderbyniad i Highbury ym mis Medi, 1830. Mae pryder a theimlad ei dad, pan glywodd am dderbyniad ei fab i'r athrofa, yn cael ei ddesgrifio yn fywiog iawn mewn llythyr a ysgrifennodd at ei "anwyl Henry," Medi 13, 1830.

"O mor fynych," meddai, "y canlynais chwi at Dr. Henderson a Mr. Halley at Mr. Wilson, ac o flaen y Cyfeisteddiad! O mor bryderus y bum yn eistedd wrth eich penelin pan oeddech yn ysgrifennu eich ateb i'w gofyniadau, a chyda'r fath gerddediad crynedig y bum yn cyd-fyned â chwi i gyfarfod a'r Cyfeisteddiad y prydnawn hwnnw ! Fel y bum yn eistedd yn eich ymyl dros y pedair awr hirfaith o ddisgwyliad pryderus, ac fel yr