dywedai Dr. Dale, yng nghyrraedd sŵn dyfroedd ac yng ngolwg mynyddoedd gwlad ei enedigaeth; ac y mae yn ddiau, fel y dywedai ei wraig alarus, pe cawsai gyfleustra i ddatgan ei ddymuniad, mai fel hyn y carasai iddi fod. Esgynnodd enaid caredig Apostol mawr Heddwch o ganol broydd tawel a distaw Treborth fry i'r wlad o fythol hedd. Yng ngeiriau tlws Ceulanydd,—
"Tra llechai yn gynnes ym mynwes mwynhad,
Yn ymyl yr afon wahanna ddwy wlad,
Derbyniodd wys angeu yn dawel ei fryd,
A chroesodd yr afon wahanna ddau fyd."
Ar yr 22ain, ar ol gwasanaeth byr yn y tŷ gan y Parch. David Charles Davies, M.A., un o gyfeillion mynwesol y trancedig, cludwyd y corff mewn arch dderw tua'r Orsaf. Yn dilyn yr elorgerbyd, ar draed, yr oedd Mr. Davies a'i dri mab; Mr. Coleman, ei fab ynghyfraith, a mab yr aelod o Norwich; Mr. Charles Pierce, U.H.; Mr. Bryn Roberts, A.S.; Dr. John Roberts, U.H.; a'r Parch. D. C. Davies, M.A. Wedi hynny, deuai cerbydau Mr. Richard Davies, yn y rhai yr oedd Mrs. Richard, Miss Richard, Mrs. Richard Davies, a boneddigesau ereill o deulu Treborth. Ar ol hynny, yr oedd cerbydau gwâg Mr. Robert Davies, Bodlondeb, Mr. Charles