Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/298

Gwirwyd y dudalen hon

galluoedd hynny oedd o'i amgylch yng nghartref ei febyd. Yr oedd Mr. Richard, meddai, wedi etifeddu traddodiadau yr amseroedd hynod hynny yn hanes ei wlad, pan yr oedd gwŷr o athrylith, dan ysbrydoliaeth ffydd ogoneddus, yn teithio trwy bob parth o Gymru, ac yn pregethu Efengyl Crist gyda nerth a dylanwad anghydmarol bron. Pa le bynnag y pregethent, ymdyrrai y bobl i'w gwrandaw. O drefydd a phentrefydd pell, o amaethdai a maesdrefi gwasgaredig, o'r dyffrynoedd ac ochrau y mynyddoedd, ysgydwid miloedd a degau o filoedd o wyr, gwragedd a phlant gan eu cenhadwri, fel yr ysgydwir y coed gan yr ystorm.

Ac nid cyffro y funud yn unig oedd hyn. Yn ystod dwy genhedlaeth, achubwyd Cymru rhag anghrefydd, a llanwyd ei phobl â duwiolfrydedd dwfn a gwresog. Yr oedd tad Mr. Richard yn un o'r rhai mwyaf enwog ac ymroddgar o'r dysgawdwyr cyntaf hyn.

Cyfeiriai Dr. Dale hefyd at lafur Mr. Richard gyda'r Gymdeithas Heddwch, ac fel Aelod Seneddol, mewn iaith goeth a theimladwy dros ben; ac at ei fywyd teuluaidd, o'r hyn yr oedd efe (Dr. Dale) yn dyst, am ddwy flynedd. Yr oedd yn addfwyn, yn serchog, ac anhunanol. Carai yn wresog, a cherid ef yn wresog yn ol." Ar yr un pryd, yr oedd mor gadarn a'r graig