ithfaen. "O dan y cyfan gorweddai crefydd ei febyd yn dawel. Nid nad oedd yntau yn cael ei aflonyddu ar brydiau gan ystormydd ymosodol y blynyddoedd diweddaf; ond pa wyntoedd bynnag a chwythai, neu pa lifeiriant bynnag a ymosodai, yr oedd ei ffydd ef yn ddiysgog. Adeiladodd ar graig, a'r graig oedd Crist."
Wrth y bedd, cafwyd anerchiadau rhagorol, yn yr iaith Gymraeg, gan y Parch. Dr. Owen Evans, a chanwyd yr hen bennill anwyl,—
"Bydd myrdd o ryfeddodau
Ar doriad boreu wawr," &c.
Traddodwyd pregeth angladdol hefyd gan y Parch. Edward White, yng Nghapel yr hwn y bu Mr. Richard a'i deulu yn addoli am dros ugain mlynedd.
Dygwyd tystiolaethau uchel i gymeriad Mr. Richard gan luaws o wŷr enwog. Mae tystiolaeth Mr. Gladstone yn un wir werthfawr, ac yn haeddu sylw neilltuol. Gwelsom fod Mr. Richard wedi gwrthwynebu Mr. Gladstone droion yn y Senedd, ac wedi arfer geiriau trymion iawn weithiau. Ond gwyddai Mr. Gladstone mai nid pleser oedd hynny iddo, ond ffyddlondeb diwyro i wirionedd; ac yr oedd mawrfrydigrwydd cymeriad Mr. Gladstone y fath, fel yr oedd ei barch i Mr. Richard gymaint a hynny yn fwy mewn