ddifrifol—dichon eu bod yn fwy cymwys ar y cyfan i le arall—y ffaith yw fod ganddo ef yr hyn a allwn ei alw yr heddwch tufewnol hwnnw ag oedd yn esponio ei hunanlywodraeth allanol; ei addfwynder yn gystal a'i ddewrder. Yr oedd yn amhosibl ei weled heb ddweud ei fod, nid yn unig yn proffesu Cristionogaeth, ond fod ei feddwl yn gysegr i ffydd Gristionogol; gobaith Cristionogol, a chariad Cristionogol; ac yr oedd yr holl nerthoedd a'r egwyddorion mawrion hynny yn tarddu o'r canolbwynt, ac yn peri i'w oleuni lewyrchu ger bron dynion; er y buasai ef ei hun yr olaf i honni neu i gydnabod fod ynddo un math neu radd o deilyngdod neu haeddiant. Mi wn, foneddigesau a boneddigion, y bydd ei enw yn cael ei hir gofio a'i fythol barciu yn eich plith, ac y mae yn dda gennyf gael y cyfleustra hwn i dalu iddo y deyrnged galonnog a diffuant, ond ber ac amherffaith hon o edmygedd a pharch."
Mae bod Mr. Richard wedi tynnu allan y fath dystiolaeth a hon oddiwrth Mr. Gladstone, nid yn unig yn siarad yn uchel am ei gymeriad Cristionogol, gloew a phur, ond hefyd yn dangos fod yng nghymeriad Mr. Gladstone ei hun, elfennau cydnaws ag oedd yn cael eu cyffroi ac yn dwyn allan ei gydymdeimlad. Talai y Wasg hefyd deyrnged o barch i gymeriad a gwaith Mr. Richard, ac nid oedd gan hyd yn oed y Times air bach i'w ddweud am dano,—
"Yr oedd," meddai y Daily News, "yn un a elwid, fe allai, gan ei elynion yn benboethyn, a hynny, mae'n