Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/334

Gwirwyd y dudalen hon

Hague ar y 18fed o Fai, 1899. Daeth ynghyd gynrychiolwyr o 26 o wledydd, sef Germani, Awstria-Hungari, Belgium, China, Denmarc, Yspaen, Ffrainc, Prydain, Groeg, Itali, Japan, Luxemberg, Mexico, Montenegro, Netherlands, Persia, Portugal, Roumania, Rwsia, Servia, Siam, Sweden, Norway, Switzerland, Twrci a Bulgaria.[1] Cynrychiolai y rhai hyn deyrnasoedd yn cynnwys naw ran o ddeg o'r ddaear mewn maintioli, a phoblogaeth o 1,400 allan o 1,600 o filiynnau pobl y byd. Yr oedd y Cynrychiolwyr yn gant mewn nifer, a buont yn eistedd am ddau fis. Os oes rhyw ymdrafodaeth rhwng y teulu fry a theulu'r llawr, y mae yn anhawdd meddwl nad oedd enaid Mr. Richard yn talu ymweliad â'r “Tŷ yn y Coed,” yn yr Hague, yn ystod y ddau fis fythgofiadwy hyn, gan fod y pwnc y bu efe drwy ei oes yn galw sylw y byd ato, yn awr yn cael ei drafod mewn modd ymarferol yn yr ysmotyn dyddorol hwnnw. Mae holl hanes y Gynhadledd yn awr o'n blaen mewn cyfrol drwchus o 572 o dudalennau.[2]

Gan na chaniatawyd i wŷr y Wasg fod yn bresennol yn y cyfarfodydd, ni chafwyd ond hanes amherffaith iawn o'r Ymdrafodaethau, ac yr oedd pobl y gwledydd yn anwybodus iawn o'r gwaith pwysig oedd yn myned ymlaen. Yn wir, gan na wnaed dim yn ymarferol yn y cyfeiriad o leihau darpariadau milwrol, coleddwyd y dybiaeth fod y Gynhadledd i fesur yn fethiant

  1. Gwaharddodd Lloegr i'r Transvaal gael dod i mewn.
  2. The Peace Conference at the Hague, and its Bearings on International Law and Policy, by Frederick W. Holls, D.C.L., a Member of the Conference from the U. S. of America. Macmillan & Co. Price 10/- net.