Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/339

Gwirwyd y dudalen hon

ATODIAD:

Yn cynnwys rhai o syniadau neilltuol Mr. Richard
ar y cwestiwn o Ryfel a Heddwch.

GAN fod hanes bywyd a gwaith Mr. Richard mor gymhlethedig â'r cwestiwn mawr o Heddwch, yr ydym yn teimlo nad anerbyniol gan y darllennydd fydd cael engreifftiau o'r modd y byddai efe yn edrych ar y cwestiwn hwnnw yn ei amrywiol agweddau, ac yn enwedig gyda golwg ar y dadleuon a ddygid ymlaen gan rai dynion da weithiau, er ceisio amddiffyn rhyfel. Bydd hyn yn help i'r darllennydd ffurfio barn dêg ar olygiadau Dr. Richard ar y pwnc. Ceisiwn roddi talfyriad o ychydig o'r engreifftiau hyn, wedi eu cymeryd yn bennaf o ysgrifau Dr. Richard yn yr Herald of Peace, Cyhoeddiad misol y Gymdeithas Heddwch. Nodwn y rhifyn lle y mae y pwnc yn cael ei drin yn helaeth.

1. Y Gyfraith Filwrol.—Dywed Syr Charles Napier, un o'r awdurdodau uchaf ar bwnc o'r fath yn ei Remarks on Military Law, mai unig ddyledswydd milwr ydyw ufuddhau i'w Gadfridog, gan fod ei gydwybod a'i gyfrifoldeb i Dduw a'i gyd-ddyn yn gwbl yn ei law ef. Dyma hefyd ddatganiad y Duc Wellington. Dywedai y Parch. J. J. Freeman, mewn Cyfarfod Cenhadol unwaith wrth gyfeirio at y modd yr ymddygid at y Caffrariaid, fod Syr Harry Smith, Llywydd y Cape, wrth annerch y milwyr yn ei ddull cyffrous ei hun wedi arfer y geiriau hyn,—" Filwyr, eich dyledswydd gyntaf ydyw ufuddhau i'ch swyddogion, a'r ail ydyw ufuddhau i Dduw." Mae Mr. Richard yn gofyn yn ddifrifol, pa sawl Cristion oedd yn teimlo, fel y dylai, wrth glywed datganiad y Cadfridogion a enwyd fod y milwr yn gyfrifol i'w Swyddog o flaen ei Dduw, ac yn ystyried nad oedd hyn ond ffaith sydd wrth wraidd Cyfraith Filwrol Prydain? Beth pe dywedai un o'r milwyr, "Nid wyf yn credu fod y rhyfel hwn yn un cyfiawn, rhaid i mi ufuddhau i Dduw, am hynny, nis gallaf ymladd;" a gydnabyddid y fath blê am foment mewn llys milwrol? Os na wneid, meddylied ein cyfeillion am gyfundrefn sydd yn gwneud peth fel hyn yn angenrheidiol. Herald of Peace, 1851, t.d. 142.

Yn yr Herald of Peace am y flwyddyn 1860, t.d. 114 a 126, y mae Mr. Richard yn croesi cledd a'r Parch. F.D. Maurice ar y cwestiwn hwn. Dywed Mr. Maurice fod llawer yn petruso rhoddi addysg grefyddol i filwyr, rhag y cyfyd yn eu