Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/347

Gwirwyd y dudalen hon

cyfeillgar â hwynt. Nid aeth ag un math o arfau rhyfel gydag ef, ni adeiladodd amddiffynfeydd na dim o'r fath. Dywedai y Brenhin Charles yr Ail wrtho y byddai yn siwr o gael ei ladd a'i fwyta gan yr Indiaid, ac mai ofer oedd iddo ddisgwyl help milwyr ganddo ef. "Nid oes arnaf eisieu dy filwyr," ebe Penn y Crynwr digryn. Beth fu y canlyniad? Am yr holl amser y bu y Prif Awdurdod yn nwylaw y Crynwyr yn Pennsylvania—sef am 70 mlynedd, ni wnaed un niwed iddynt. Ni chollwyd un dafn o waed y Crynwyr. Edrycher ar yr ochr arall. Aeth llawer o'r hen Buritaniaid allan gydag arfau rhyfel. Y canlyniad fu, eu bod wedi gorfod ymladd yn fynych, y collwyd bywydau, ymddygodd yr Indiaid yn greulon tuag atynt, ni feiddient adael eu tai na'u lleoedd o addoliad heb fod milwyr yn eu gwarchod, ac yr oedd yn rhaid i bob dyn ofalu i gario ei arfau gydag ef. A hyn i gyd tra yr oedd y Crynwyr yn myned ac yn dod heb arfau, ac yn berffaith ddiogel. Herald of Peace, 1857, t.d. 222.

9. Y Duc Wellington.—Pan fu farw yr hen Dduc Wellington, yr oedd pob newyddiadur, ac yn wir y nifer fwyaf o bwlpudau y wlad yn ei glodfori. Nid felly Mr. Richard. Yn un peth, am nad oedd yn credu fod y syniad o "ddyledswydd, am yr hyn y canmolid y Duc gan bawb yn ddim amgen na dyledswydd milwrol; peth hollol wahanol i rwymedigaeth i wirionedd. Ac yn ail, am fod y gogoniant yr hwn a enillodd Wellington, yn ogoniant a gostiodd ddwy filiwn o fywydau, fod y rhyfel rhyngom â Ffrainc yn un diangenrhaid, ac o ganlyniad yn un anghyfiawn, fod rhai o brif Seneddwyr y deyrnas—yn eu mysg Arglwydd Brougham ac Arglwydd John Russell, a llu ereill—yn credu hynny, fod Napoleon mor fuan ag y daeth i awdurdod yn awyddus i fod mewn heddwch â'r wlad hon, ac os felly, methai Mr. Richard weled "gogoniant" rhyfeloedd Wellington. Ond pe addefid fod y rhyfeloedd yn rhai cyfiawn ar y pryd, beth a enillwyd? Erthygl gyntaf Cytundeb Vienna, ar ol yr holl dywallt gwaed am flynyddoedd oedd nad oedd Napoleon, nac un o'i dylwyth byth i feddu un awdurdod yn Ffrainc, ac eto dyma Louis Napoleon, ei nai, yn Ymherawdwr Ffrainc yn awr! Herald of Peace, 1852, t.d. 126.

10. Gwrthryfel India.—Ysgrifennodd Mr. Richard lawer ar y cwestiwn hwn. Mynnai y deyrnas hon nad oedd ond gwrthryfel ar ran y milwyr yu unig, ond dadleuai Mr. Richard yn gryf mai gwrthryfel ar ran trigolion India ydoedd, yn erbyn llywodraeth Prydain, a dygodd dystiolaethau lawer o haneswyr, barwyr, swyddogion milwrol ac ereill i brofi hynny. Mawr gondemniai y creulonderau a arferai y wlad hon tuag atynt wrth eu cospi am eu gwrthryfel. Mae yn trin yr holl gwestiwn mewu amryw rifynnau yu yr Herald of Peace am 1858 gyda deheurwydd a manylwch mawr. Bydd y neb a ddarllenno ei erthyglau yn cael goleuni