Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/42

Gwirwyd y dudalen hon

hwy, fel y mae hanes y Dywysogaeth yn y blynyddoedd dilynol wedi profi. Ac yn yr ystyr yma hwyrach fod Adroddiad y Dirprwywyr wedi gwneud lles i ni fel cenedl. Ond am y desgrifiad o agwedd foesol y genedl, cynhyrfodd y Cymry ym mhob man. Mae yn anhawdd i'r rhai nad ydynt yn ddigon hen i gofio y dyddiau hynny ffurfio barn, fel y gall yr ysgrifennydd, am y modd y cyffrôdd y Cymry yng ngwyneb y gwaradwydd a daflwyd arnom fel cenedl ar y pryd. Cynhaliwyd cyfarfodydd cyhoeddus, traddodwyd areithiau grymus, ysgrifennwyd erthyglau i'r newyddiaduron, a chyhoeddwyd pamphledau lawer. Gwnaeth y diweddar Dr. Lewis Edwards, Ieuan Gwynedd, ac ereill, wasanaeth mawr trwy amddiffyn ein cymeriad fel cenedl. Yr oedd erthyglau Dr. Edwards yn y Traethodydd yn eiriasboeth a miniog dros ben, a'i ymosodiad ar y man glerigwyr celwyddog a fwriasant eu llysnafedd arnom wrth y Dirprwywyr yn dra nerthol. Chwipiodd hwynt fel y gwnelai tad digofus chwipio bachigen drwg a boerodd i wyneb ei fam. Do, cystwyodd hwynt fel yr haeddent. Mae'n wir fod y Dr., wrth gyhoeddi ei Draethodau Llenyddol yn llyfr yn ysgrifennu mewn nodiad ei fod yn ystyried bu yn "rhy chwerw o lawer" yn yr erthygl yn y Traethodydd, ond nid yw hynny ond