Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/59

Gwirwyd y dudalen hon

ymgymerasai âg ef, a'r hwn oedd bellach yn cymeryd bron ei holl amser, ac i fod o hyn allan yn brif waith ei fywyd. Aeth efe ac Elihu Burritt i Germani i wneud darpariadau ar gyfer Cynhadledd Heddwch yn Frankfort. Mae Mr. Richard, mewn llythyr a ysgrifennodd at Mr. Stokes, Ysgrifennydd Cynhorthwyol y Gymdeithas Heddwch, dyddiedig Halle, Gorffennaf 16, 1850, yn rhoi hanes y daith i Frankfort; hanes ag sydd yn dangos gallu desgrifiadol o radd uchel. Buasai yn ddifyr gennym roddi difyniadau helaeth o honno, ond elai hynny a gormod o le.

Cawsant dderbyniad tywysogaidd ar y ffordd, yn Paris, yn Flanders, a mannau ereill, a gwnaethant a allent i gyffroi meddyliau gwŷr mwyaf dylanwadol y parthau hynny, a'u codi i roddi cynhorthwy i'r achos mawr yr oeddent yn ceisio ei hyrwyddo. Wedi cyrraedd Frankfort, y ddinas lle y coronid Ymerawdwyr Germani, ac y pregethodd Luther ynddi ar ol dychwelyd o'r Diet of Worms, ymwelwyd â rhai o ŵyr pennaf y lle. Cafwyd caniatâd y Senedd i gynnal y Gynhadledd, a gwnaed trefniadau i gynnal y cyfarfodydd yn Eglwys St. Paul. Nid gorchwyl hawdd oedd symud y rhwystrau oedd ar eu ffordd, anewyllysgarwch rhai, eiddigedd ereill, a gwrthwynebiad y lleill,