Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/61

Gwirwyd y dudalen hon

Llenwid y llawr gan y gwahanol gynrychiolwyr, a'r llofftydd gan wrandawyr. Dyddorol ydyw darllen fod y Cadfridog Haynau yno, y "Cigydd Awstraidd" fel y gelwid ef, fflangellydd merched Hungari, a'r hwn, ar y bydd o Fedi, 1850, a chwipiwyd gan y gweithwyr yn Narllawdy Barclay a Perkins pan ar ymweliad â Llundain. Hyderwn y cafodd fendith yn y gynhadledd, ac y cyffyrddwyd a'i gydwybod er daioni. Danghoswyd y brwdfrydedd mwyaf yn y cyfarfodydd, ac yr oedd areithiau y gwyr enwog ynddynt yn dra effeithiol. Bu raid i Mr. Cobden siarad fwy nag unwaith, a derbyniwyd ef bob tro gyda'r banllefau mwyaf byddarol. Nid peth bychan oedd fod y fath gynhadledd wedi pasio, yn ddiwrthwynebiad, benderfyniad yn condemnio byddinoedd sefydlog, ac yn galw ar y gwahanol deyrnasoedd i wneud ymgais i leihau eu byddinoedd.

Y siaradwyr yn y cyfarfodydd oeddent y gwŷr enwog canlynol:—Y Llywydd, Herr Jaup, diweddar Brif Weinidog Hesse Darmstadt, y Parch. J. Burnet, M. Coguerel (ieu.), y Parch M. Bounett, M. de Cormenin, y Parch. Henry Garnet, Dr. Creiznach, M. Emile de Girardin, Mr. L. A. Chamerozvou, M. Visichers, Herr Beck, Proffeswr Cleveland, o Philadelphia, Mr. R. Cobden, Charles Hindley, Ysw., A.S., y Parch. Rabbi Stein, M.