Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/69

Gwirwyd y dudalen hon

ysgrifennodd John Bright lythyr at Mr. Absalom Watkins, yn erbyn rhyfel y Crimea, cyhoeddwyd ef gan y Gymdeithas Heddwch, gyda Nodiadau wedi eu cymeryd allan o'r " Llyfrau Gleision" ac areithiau seneddwyr, a'r oll wedi eu casglu gan Mr. Richard. Yr oedd pobeth a gymerai mewn llaw yn dangos ôl llafur ac ymchwiliad trwyadl.

Yn niwedd 1852, daeth y Gymdeithas Heddwch i dipyn o helbul, ac y mae yn werth nodi yr amgylchiadau, gan eu bod yn dangos gwroldeb Mr. Richard. Cododd yr helbul yn achos Mesur y Cartreflu (Militia Bill) a ddygwyd i mewn i'r Tŷ o dan Weinyddiaeth Arglwydd Aberdeen. Penderfynodd y Gymdeithas Heddwch wrthwynebu y mesur, a danfonodd allan law—lenni wrth y miloedd, yn egluro i'n dynion ieuainc natur y mesur, gan ei bod yn ystyried eu bod yn cael eu camarwain. Cymerwyd un neu ychwaneg o'r rhai oedd yn gwasgaru y llaw—lenni hyn i'r ddalfa. Dygwyd y mater o flaen y Senedd. Gwnaeth 64ain o bleidwyr y Gymdeithas Heddwch addefiad cyhoeddus mai hwy oedd yn gyfrifol am anfon allan llaw—lenni, a danfonasant eu henwau, gyda deiseb, at yr Ysgrifennydd Cartrefol, Mr. Walpole, ar yr achos. Mae y ddeiseb yn gyfansoddiad yr ysgrifennydd, ac yn gampwaith mewn