Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/70

Gwirwyd y dudalen hon

ymresymiad penderfynol ac eglurder iaith. Dadleua hawl pob dyn i esponio i arall beth yw y gyfraith; bod llaw—lenni cyffelyb wedi eu caniatau yn flaenorol; nad oedd dim ynddynt ond gwirionedd; ac y byddai gweinyddu cosb am eu lledaeniad yn ddim amgen nag ymgais i fygu y gwir trwy orfodaeth; bod ereill yn cael hud—ddennu dynion ieuainc, trwy ddiodydd meddwol a chelwydd, i ymuno â'r fyddin; a'i fod yn rhyfedd o beth na chaffai dynion Cristionogol roddi ein gwŷr ieuainc anwybodus ar eu gwyliadwriaeth trwy ddweud y gwir wrthynt.

Canlyniad danfon y ddeiseb gref hon oedd peidio erlyn y gwŷr am ledaenu y llaw—lenni; ac hysbysodd Arglwydd Palmerston yn ymffrostgar, yn y Senedd, fod yn dda ganddo ddweud eu bod wedi cael y nifer gofynedig o wyr i ymuno â'r cartreflu er gwaethaf pob rhwystr. Mae Mr. Richard, yn yr Herald of Peace, yn datgan yn difloesgni fod hyn yn groes i'r gwirionedd, ac nid yn unig hynny, ond y gwyddai Arglwydd Palmerston ei fod yn dweud yr hyn nad oedd wir. Yna y mae yn defnyddio y geiriau miniog a ganlyn,—

"Mae Arglwydd Palmerston wedi bod mor garedig a rhoddi cyngor bach i'r Gymdeithas Heddwch. Fel cydnabyddiaeth ddiolchgar am hynny, nis gallwn ond dychwelyd ei garedigrwydd yn ol trwy roddi cyngor