Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/95

Gwirwyd y dudalen hon

datganodd ei benderfyniad i ymladd hyd y diwedd, costied a gostio, yr oedd Mr. Richard yn ddigon dewr i'w geryddu mewn iaith gref.

"Ymha le yn efengyl Duw" gofynnai, "y mae gennym warant i gefnogi dynion yn eu penderfyniad addefedig i ddinistrio pum miliwn o ddynion, oni ymostyugant i'w hewyllys hwy, neu gael eu dinistrio eu hunain yn yr ymdrech? Mae bod y rhai sydd yn proffesu eu hunain yn ddisgyblion i'r Hwn a ddaeth i'r byd, nid i ddistrywio eneidiau dynion, ond i'w cadw, yn tybied eu bod yn gwasanaethu Duw wrth ymgymeryd â'r gwaith creulawn hwn, o'u hewyllys eu hunain, i ddal i fyny ffurf neilltuol o lywodraeth, neu—yr hyn sydd yn fwy gwrthun fyth—i hyrwyddo achos dyngarwch a Christionogaeth ar y ddaear, yn un o'r engreifftiau mwyaf hynod o hunan-dwyll, trwy yr hwn y mae duw y byd hwn yn dallu meddyliau dynion, ag a gofnodir yn hanes yr hil ddynol."

Beth bynnag a ddywedir am yr ymgyrch ofnadwy hwnnw, a'r modd y darfu i'r Gogledd gyhoeddi rhyddhad y caethion tua chanol y rhyfel, fel moddion goruchafiaeth, nid oes un amheuaeth na ddarfu i Mr. Richard ymlynnu yn bybyr wrth ei egwyddorion gwrth-ryfelgar; ac y mae llawer yn tybied y buasai moddion gwahanol, a llawer llai costus mewn arian a bywydau, a llawer llai dinistriol i foesau a gwareiddiad Cristionogol, wedi gwneud y gwaith yn llawer iawn mwy effeithiol. Nid yw fod