Tudalen:Bywyd a gweithiau Azariah Shadrach.djvu/100

Gwirwyd y dudalen hon

mor aml. Ac yr ydym wedi gweled eisoes pa mor ddiwyd yr. oedd mewn pregethu. Ac os ychwanegwn at hyn yr holl lyfrau a ysgrifenwyd ganddo, y mae yn ddiau y bydd ei ddiwydrwydd yn eglur i bawb. Gan nad oedd ei lawysgrif yn ystwyth iawn, y mae yn amlwg mai nid gorchwyl bach ydoedd ysgrifenu y fath nifer o lyfrau. A gorchwyl cymaint a hyny oedd eu gwerthu. Nid peth hawdd iawn yn awr ydyw gwerthu. nwyddau llenyddol, er pob diwygiad sydd wedi cymeryd lle er y pryd hwnw. Ac y mae meddwl fod Shadrach wedi gallu gwerthu cynifer o lyfrau, a rhai o honynt ddwywaith neu dair, neu ragor, drosodd, yn ein synu llawn cymaint a'i fod wedi ey cyfansoddi. Ond beth na wna diwydrwydd? Nid yn unig yr oedd Shadrach yn estyn y dydd i'r nos, drwy fyned yn hwyr i gysgu, ond dywedir hefyd ei fod yn codi yn ddisymwth, weithiau yn nghanol y. nos, er dirfawr aflonyddwch i'r teulu, er sicrhau ar bapyr, erbyn tranoeth, ryw ddrychfeddwl neu gilydd fyddai wedi ymgynyg iddo. Ac nid anturiaeth ysgafn mo honi oedd codi i gyneu canwyll y pryd hwnw, pan nad oedd y fath bethau a lucifer matches wedi dyfod i ddiorseddu crafion y cradell pobi, neu'r tinder box. Ac eto nid Shadrach yn unig oedd yn meddu ar ddigon o wroldeb i wneud hyny, er mwyn sicrhau drychfeddwl. Clywsom fod Williams o Bantycelyn, yn mysg ereill, yn arferol o wneud hyn. Ac, ar un amgylchiad, dywedir fod pennill neillduol wedi rhedeg i'w feddwl yn nyfnder y nos: ac er ei sicrhau, dechreuodd alw ar ryw forwyn anffodus neu gilydd i gyfodi i pleuo y ganwyll iddo. Ond, er galw, nid oedd dim llwyddiant. Yn wirioneddol, neu yn ffugiol, yr oedd hono yn cysgu yn drwm. Ond os na chyfodai hi i roddi tân ar y ganwyll, bu ei syrthni yn foddion i danio awen y bardd; a dechreuodd ddywedyd, yn y man a'r lle, dan ddylanwad y. cynhyrfiad:—

"'Rwy'n awr yn gweld yn eglur,
'Tai clychau mawr y llan,
A rhod y felin bapyr,
A gyrdd y felin bân,
A'r badell bres a'r crochan,
Yn twmblo dros y tŷ,
A'r gwely'n tori tani,-
Mai cysgu wnelai hi."