Tudalen:Bywyd a gweithiau Azariah Shadrach.djvu/105

Gwirwyd y dudalen hon

gormod o ffrwyn ganddo: a dyna paham y mae yn dewis llawer testyn nad yw mewn un modd yn gymhwys i gynal y bregeth a sylfaenir arno. Y mae fancy yn odidog wasanaethgar i addurno, ond nid i adeiladu. Nid ydym yn sicr nad hyn sydd yn peri fod llawer yn meddwl mor ddiystyr o hono.

Yr oedd yn gosod ei olygiadau duwinyddol allan, yn ei bregethau a'i lyfrau, yn agored a di-len. Fel y mae yn hysbys ddigon, yr oedd ganddo ei olygiadau penodol: ac y mae hyny yn fwy nas gellir ei ddyweyd am lawer. Y mae rhai yn dysgu bob amser; ac yn ymddangos, bob amser, heb ddyfod i adnabyddiaeth o'r gwirionedd. Ni roddant un lle i dybied eu bod erioed wedi meddwl am ddim o gynwysiad y Beibl, yn ddifrifol, drostynt eu hunain. Y maent, o hyd, o'r un farn a'r awdwr diweddaf a ddarllenasant. Ond nid un o'r teulu hwn ydoedd Shadrach. Yr oedd ef yn sefydlog yn ei farn; ac yn un o'r rhai a elwir, erbyn hyn, yn uchel-Galfiniaid. Yn ol ei farn ef, yr oedd yr iawn, yn gystal a'r eiriolaeth, o'r un hyd a lled, yn gywir, ag etholedigaeth. "Yr oedd yr arch a'r drugareddfa," medd efe, "yr un hyd ac yr un lled a'u gilydd; felly y mae prynedigaeth ac eiriolaeth Crist." Oblegyd hyn, daeth i wrthdarawiad â'r rhai a alwent, ac a 'alwant, eu hunain yn Galfiniaid diweddar, neu gymedrol. Daliai y rhai hyn fod yr iawn yn gyffredinol i bawb; neu, mewn geiriau eraill, fod marwolaeth Crist yn gwneud cadwedigaeth y teulu dynol, i gyd oll, yn bosibl. Ac er eu bod hwythau, fel Shadrach, yn credu fod etholedigaeth yn bersonol, ac anamodol, eto, yr oeddynt, yn groes iddo ef, yn credu, gan fod yr iawn yn gyffredinol, fod ffordd cadwedigaeth yn agored i bawb; ac y gallai pwy bynag a fynai, gan hyny, fod yn gadwedig, gan nad pa un a fyddai yn etholedig ai peidio. Mewn gair, yr oeddynt hwy yn credu mai amcan etholedigaeth oedd dwyn pechadur i gofleidio yr iachawdwriaeth; ac mewn cysondeb â'u daliadau, credent y byddai etholedigaeth yn ddiangenrhaid pe bai y pechadur yn cofleidio yr iachawdwriaeth o hono ei hun. Credent mai yn y rhagolwg ar gyndynrwydd pechadur, yn benaf, yr oedd anfeidrol gariad yn ymgymeryd âg ethol: a chredent, mewn canlyniad, mai ar y dy biaeth fod y pechadur yn anmhlygadwy gydyn o hono ei hun, yn unig, ŷ gellir dyweyd fod etholedigaeth yn hanfodol er iachawdwriaeth,