y ceir ysgrifenydd llawer mwy cyfarwydd â phriod-ddulliau'r Gymraeg nag ydoedd ef. Y mae yn dda genym weled fod rhai o'n prif ysgrifenwyr yn cydsynio â ni yn y peth hwn.
Yn awr, dyna y cyfan sydd genym i'w ddywedyd am Azariah Shadrach-ei fywyd a'i weithiau. Ac o ddifrif, ddarllenydd, onid dyn hynod ydoedd? Ai teg oedd iddo gael ei annghofio cyhyd? Nage: nid teg. Afresymol hefyd yw ymddygiad y bobl sydd wedi bod yn siarad yn ddiystyrllyd am đano. Gwir fod teitlau rhai o'i lyfrau yn troseddu yn erbyn chwaeth dda, er eu bod yn swynol i ddarllenwyr ei oes ef; gwir hefyd ddarfod iddo ysgrifenu llawer gormod o lyfrau iddynt i gyd allu bod yn dda; a gwir yn mhellach fod ei olygiadau ar rai pynciau yn rhy uchel-Galfinaidd o lawer i fod yn dderbyniol yn ngwyneb safon fwy cymedrol yr oes hon; er hyn i gyd, y mae yn deilwng o gael ei gofio yn barchus genym. Heblaw ei lafur gweinidogaethol, gallwn feddwl, a barnu yn o gymedrol, ddarfod iddo werthu yn ei ddydd, o leiaf ryw driugain mil o gopïau o'i lyfrau: ac y mae llawer o honynt eto yn parhau yn farchnadol. Diau gan hyny ei fod wedi dylanwadu, yn ei gylch priodol ef, yn o fawr ar ei oes. Ie, "y mae efe wedi marw yn llefaru eto." Barned y darllenydd, ynte, ai priodol oedd gadael i goffadwriaeth Azariah Shadrach gael ei annghofio.
"Shadrach ffyddlawn, mae dy goron
Heddyw'n ogoneddus fawr;
Ac ni thynir perl o honi
Gan fân feirniaid cul y llawr:
Gŵyr dy Feistr werth dy lafur,
Nododd ef dy daith bob darn:
A cheir gweld dy ddefnyddioldeb
Fil mwy amlwg ddydd y farn.