ef ddim iawn drostynt: yn ganlynol, fe fydd yn rhwym oddiar angenrheidrwydd natur i gospi y rhai a fydd marw o dan y cyfammod o weithredoedd, am nad oes un cyfrngwr yn y cyf ammod hwnw: nid natur angylion a gymerodd Crist, ac nid had Adda, na had y Ddraig yw Crist, ond had y wraig ydyw ef. Ni bu Crist ddim marw mewn un berthynas gyfryngol â'r rhai fydd yn golledig: am hyny nis gallai Duw eu hachub, yn unol â'i natur, yn y drefn a sefydlwyd yn y cyfammod tragwyddol.
"6. Yr wyf yn addef, pe buasai Duw yn ordeinio ac yn ap- pwyntio ei Fab i fod yn ben cyfammod i holl ddynol-ryw, a'i ordeinio ef yn Gyfryngwr i bawb, a Christ fel Cyfryngwr wedi marw dros bawb, yn y berthynas hono i roddi iawn digonol drostynt, yna fe allai Duw, yn unol â'i natur i achub pawb; ond ni allai, yn unol â'i gyfiawnder, i ddamnio neb wedi cael iawn digonol dros eu holl bechodau : ond y mae yn ddigon eglur, oddiwrth yr holl ysgrythyrau, mai dyben marwolaeth Crist oedd dwyn iachawdwriaeth gyflawn, mewn modd teilwng o Dduwè dod, i bawb ag oedd ef yn eu cynnrychioli fel pen y cyfamod newydd.
"7. Ni a welwn yn eglur oddiwrth yr holl ysgrythyrau, mai nid marw a wnaeth i brynu swn efengyl i ddynion, a'u gadael yn amddifaid o ras yr efengyl. Nid marw a wnaeth Crist i brynu pethau daearol i ddynion, a'u gadael yn amddifaid o fendithion ysbrydol; yr oedd gwaed Crist yn rhy werthfawr i'w dywallt am bethau mor wael a phethau'r byd. Nid marw a wnaeth Crist i drymhau cosp dynion, nac i egluro cyfiawnder Duw yn eu dinystr; 'ond hwn a osododd Duw yn iawn trwy ffydd yn ei waed ef, i ddangos ei gyfiawnder ef trwy faddeuant y pechodau a wnaethpwyd o'r blaen trwy ddyoddefgarwch Duw, i ddangos ei gyfiawnder ef y pryd hwn, fel y byddai Duw yn gyfiawn, ac yn cyfiawnhau y neb sydd o ffydd Iesu,' Rhuf. iii. 25, 26. * * * * Mae yn sicr na fu Crist farw dros bechodau neb, ond dros y pechodau a gyfrifwyd arno; ac y mae yn sicr y cyfrifir cyfiawnder Crist i bawb o'r bobl ag y cyfrifwyd eu pechod hwy arno ef."