Tudalen:Bywyd a gweithiau Azariah Shadrach.djvu/13

Gwirwyd y dudalen hon

Bywyd a Gweithiau, &c.

PENNOD I.

O'r braidd y meddyliwn fod eisiau cysylltu enw Azariah Shadrach ag un lle penodol, er bod yn fwy adnabyddus. Nid bob dydd y cyfarfyddir â dyn o'r enw hwn; ac y mae hyny yn fantais i'n darllenwyr wybod at bwy y cyfeiriwn. Ac os ydym i gael enwau o gwbl, y mae yn ddiau y dylem gael enwau cymhwys i gyrhaedd yr amcan o'u rhoddiad, sef dynodi, neu wahaniaethu rhwng un dyn a dynion ereill. Mae y Cymry, fel cenedloedd ereill, yn rhoddi rhywfath o enwau i'w plant; eto, rywfodd, anfynych y cofir at beth y mae enwau da; ac felly rhoddir yr un enwau drosodd a throsodd, heb ofalu a fyddant yn dynodi ai peidio. Fe allai y bydd dwsin o blant yn yr un gymydogaeth heb fod ond un enw rhyngddynt oll; ac mae hyny mewn effaith yr un peth a phe na bai arnynt yr un. Os bydd pob un o'r dwsin yn John, yna y mae yn anmhosibl cael allan am bwy John y siaredir. Ac, i wneyd i fyny am y diffyg hwn, y mae gwahanol ffyrdd yn cael eu harfer. Weithiau ychwanegir enw y tŷ ac fe allai y plwyf, lle byddo'r dyn yn preswylio. Brydiau ereill ychwanegir enw ei dad, ac fe allai ei daid, ac weithiau ei hen daid, at enw priodol y dyn ei hun. Ond yn aml meddylir fod hyn yn ormod o drafferth, a chodir llysenw hynod ar y dyn; yr hwn a wasanaetha yr amcan a ddylai fod mewn golwg wrth roddi ei enw priodol iddo, sef i wahaniaethu rhyngddo ef a rhyw un arall. Gellir bod yn ffol wrth chwilio am enwau dyeithr, yn enwedig os cymerir gormod o ryddid