allan ei fedd. 0 hyn allan cysyllter ei enw a'r hwn a gerid mor anwyl ganddo tra yn fyw, ac â berchir mor gynhes ganddo yn awr pan yn farw.
Ganwyd Azariah Shadrach Mehefin 24, 1774, mewn lle o'r enw Carndeifo-fach, yn mhlwyf Llanfair, yn agos i Abergwaun, yn sir Benfro. Enwau ei rieni oeddynt Henry ac Ann Shadrach, ill dau yn enedigol o blwyf Nyfern. Yr oedd ganddynt chwech o feibion, o'r rhai Azariah oedd y pumed. Tra nad oedd eto ond saith mlwydd oed, symudodd ei rieni i blwyf Borton, ar lan afon Penfro: "a bum i yno (ebe Shadrach,) yn chwareu gyda phlant bach y Saeson dros dair blynedd." Ac ni ryfeddem nad oedd gan Ragluniaeth lygad neillduol ar Azariah, ac ar y fantais a roddai chwareu gyda phlant bach y Saeson iddo, yn symudiad ei rieni. Mor bell ag yr ydym ni yn gweled, yma y bu fwyaf yn y "coleg;" a'r "plant bach," ys dywed yntau, oedd ei athrawon. Fodd bynag, nid oedd cylch ei efrydiaeth, y pryd hwn, yn myned yn mhellach na dysgu Saesonaeg; a chan iddo fod yno dros dair blynedd o amser, nid rhyfedd ei fod yn gallu dweyd iddo ddysgu siarad Saesonaeg yn lled rwydd. Pa le y gallasai gael gwell athrawon? Nid ydym yn gwybod am well cyfleusdra i blentyn ddysgu iaith benodol, nag ydyw iddo gael cyd-chwareu â phlant fyddont yn siarad yr iaith hono yn unig. Er nad oedd nac Athroniaeth, na Duwinyddiaeth, nac unrhyw aeth arall, yn cael ei phroffesu yn y "coleg" chwareuol hwn, eto, gan iddo ddysgu Saesonaeg yno, cafodd afael ar agoriad i fyned i mewn mor bell ag y mynai i'w dirgeloedd. Heb son am y Gymraeg, gallwn ddweyd ei bod yn gywilydd i unrhyw un sydd yn gwybod Saesonaeg fod yn anwybodus. Mae yn wir ddarfod i Saesonaeg y. llanc Azariah, neu, a chadw y ffugyr i fyny, ddarfod i'w agoriad ef, rydu ychydig wedi iddo gael ei symud ar ben tair blynedd i gymydogaeth Trewyddel, at fodryb iddo, chwaer ei dad, yr hon oedd yn byw yn Fagwyreinion-fawr ; eto, yr oedd hi yn ddiau yn llawer haws iddo i godi y rhwd hwn i ffwrdd nag a fyddai iddo gael agoriad o'r newydd i gyd. Ond i ni, y mae bys Rhagluniaeth yn amlwg yn y symudiad hwn eto, gan nad beth am ei Saesoneg ; oblegid ar ei dystiolaeth ef ei hun,