"nid oedd yn gwybod gair ar lyfr, nac yn adnabod yr un lythyren, nac wedi clywed nemawr o bregeth na gweddi, hyd onid oedd dros ddeg oed;" ac felly, os danfonwyd ef gan Ragluniaeth i gymydogaeth Seisnig, yn yr oed cymhwysaf i ddysgu yr iaith hòno gan y "plant bach," gofalodd ei gymeryd oddiyno mewn pryd i gael ei ddysgu mewn crefydd yn nghymydogaeth Trewyddel. Na ddyweded ein darllenwyr nad oes gan Ragluniaeth law mewn pethau "bychain" fel hyn ; oblegid, mewn gwirionedd, nid pethau bychain ydynt. Yr oedd y ddau beth yn elfenau pwysig i wneud Azariah yr hyn, wedi hyny, y daeth ef i fod. Ac os ydym yn gwadu Rhagluniaeth mewn pethau bychain, rhaid i ni, ar yr un tir, ei gwadu hefyd mewn pethau mawrion. Y mae y pethau mwyaf yn fychain i Dduw. Yn nhŷ ei fodryb, yr oedd dyn ieuanc o gefnder iddo, "yn arferol o ddarllen a gweddio yn y teulu;" a chafodd ei weddiau taerion a difrifol argraff ar ei feddwl er da. Ac wrth geisio dysgu cân yr "Hen wr dall a'r Angau," wrth fugeilio ar lân y Fagwyreinion, ymbalfalodd ei ffordd i ddarllen Cymraeg. Yr amser hwn, yr oedd y Parch. John Phillips yn weinidog ar eglwys Trewyddel, ac o dan ei weinidogaeth ef dyfnhawyd argyhoeddiadau Azariah ieuanc. Yr oedd y saethau mor llymion, yn ol ei adroddiad ei hun, fel nas gallasai gysgu'r nos, rhag ofn mai mewn trueni y byddai yn agor ei lygaid tranoeth. Gallem feddwl mai fel y teimlodd y Salmydd, y teimlai yntau yn bresenol: "Gofidion angau a'm cylchynasant, a gofidiau uffern a'm dâliasant: ing a blinder a gefais. Yna y gelwais ar enw yr Arglwydd ; atolwg Arglwydd, achub fy enaid." Ond pan y clywodd ef. fod "gwaed Iesu Grist ei Fab ef yn glanhau oddiwrth bob pechod," aeth ei faich i lawr, a dechreuodd brofi hyfrydwch yn ngwaith yr Arglwydd.
Wedi y profiad tanllyd hwn, ymwasgodd Azariah ieuanc at y dysgyblion yn Nhrewyddel, a derbyniwyd ef yn aelod gan y Parch. J. Phillips. Ac yn lle gwneud ei aelodaeth eglwysig yn fath o glustog i gysgu arni, ymroddodd Azariah i fod yn fwy diwyd nag erioed. Er nad oedd eto ond ieuanc ac anwybodus, yn ol ei addefiad ei hun, eto, teimlodd awydd yn fuan i bregethu yr efengyl. Gyrai yr awydd hwn ef i bregethu yn aml wrtho ei hun yn y caeau, ac ar ben y cloddiau ; a dywed wrthym yn