i lawr yn ei eiriau ei hun—"Mi a ddywedais wrtho y gwnawn ei wasanaethu ef am flwyddyn, ac y byddwn ffyddlon yn mhob peth a fedrwn, ar yr amod y cawn ddarllen ei lyfrau ef bob tro y byddai cyfleusdra yn caniatau: ac felly y bu." Nid oedd yn gweled, ddarllenydd, fod llafur corfforol, a blwyddyn o amser, yn ormod i'w rhoddi am fenthyg llyfrau i'w darllen. Ac y mae dyn o'r ysbryd hwn yn sicr o ymgodi. Cof genym glywed am ddyn ieuanc, yr hwn a ddechreuai bregethu ryw wyth neu naw o flyneddau yn ol, yn dyfod ar ryw achlysur at weinidog yn ei gymydogaeth enedigol. Yn mhen ychydig, dechreuodd hwnw ofyn iddo sut yr oedd yn meddwl cael ychydig o ysgol? "O (ebe yntau), yr wyf yn meddwl myned at fy nhad i dori ceryg ar y ffordd, ac mi gynilaf gymaint ag a fedraf." Eithaf ysbryd, ddarllenydd, onidê? Ymgododd y dyn ieuanc hwn hefyd o ychydig i ychydig, nes yr ymaelododd yn y London University; ac y mae yn awr yn un o'r cenadau mwyaf gobeithiol ar gyfandir India. Caiff dynion o'r ysbryd hwn "fara o'r bwytâwr", cânt fantais o'r amgylchiadau fyddont yn ymddangos yn fwyaf anffafriol: ac nid edifarhaodd Azariah am y cynyg a wnaeth. Ei eiriau yn mhen blyneddoedd lawer, wrth adolygu y tro hwn, ydynt y rhai canlynol:—"Aethym ato, ac yr wyf dan rwymau mawr i ddiolch i'r Arglwydd am y tro hwn; oblegid efe a roddes o'm blaen sampl i fyw yn dduwiol, a chefais ganddo lawer o addysgiadau buddiol, a chyngorion difrifol, a chyfleusdra hefyd i ddarllen y llyfrau goreu oedd yn bod." Anogodd Mr. Richards ef yn fuan i ddechreu pregethu; yr hyn a wnaeth mewn lle o'r enw Caergowyl, yn agos i Rosycaerau. Felly, mewn cysylltiad âg eglwys Rhosycaerau, y dechreuodd Azariah Shadrach bregethu i ddynion. Ond fel y gwelsom yn barod, yr oedd wedi pregethu llawer i'r caeau a'r cloddiau yn flaenorol, yn ardal Trewyddel; ac yn sicr, ddarllenydd, mae dysgu pregethu i gloddiau yn gymhwysder anghyffredin i bregethu i ambell gynulleidfa: yn enwedig ar ambell i brydnawn trymaidd ddau o'r gloch yn yr haf. Rhoddwn o flaen y darllenydd, ddesgrifiad byr a dderbyniasom o'r pregethau parotöawl hyn, oddiwrth un oedd bron yn gyfoed ag ef—y Parch. Daniel Davies, Aberieifi. un olwg, gellir dweyd (meddai Mr. Davies) ei fod yn bregethwr cyn erioed iddo gael ei dderbyn yn aelod; oblegid cof genym y
Tudalen:Bywyd a gweithiau Azariah Shadrach.djvu/19
Gwirwyd y dudalen hon