siarad cyffredin oedd am bregethau yr hogyn pan yn bugeilio'r praidd yn y maes. Safai ar ben y clawdd, a chymerai weithiau y môr, bryd arall, y mynydd, neu rywbeth arall, yn destyn: a bloeddiai c'uwch, nes y gellid ei glywed o bell. Ond nid llawer oedd yn meddwl y pryd hwnw fod gan y Pen-bugail gymaint iddo i'w wneud." Yn y modd hwn, ddarllenydd, o leiaf mewn rhan, y dysgodd Azariah Shadrach bregethu i gynulleidfaoedd anystyriol a gwrthwynebus yn Ngogledd Cymru.
Meddylir yn gyffredin mai yn Nhrewyddel y dechreuodd Shadrach bregethu; ond yr ydym wedi gweled eisioes, ar ei dystiolaeth ef ei hun, mai yn nghymydogaeth Rhosycaerau y gwnaeth hyny; oddieithr i ni gymeryd ei bregethau bugeiliol i'r cyfrif. Ond hen eglwys enwog, er hyny, ar gyfrif ei magwraeth o bregethwyr, yw Trewyddel. Yn yr ystyr yma, y mae wedi gadael dylanwad pwysig ar Gymru, ddeau a gogledd; ac nid rhyw eiddilod diddim ychwaith yw y rhai a fagwyd ganddi; ond pobl rymus a dylanwadol. Ac y mae yn hynod gymaint mwy cynyrchiol yw ambell eglwys na'u gilydd gyda golwg ar hyn. Y mae genym ambell eglwys henafol a lliosog heb godi erioed ond rhyw un neu ddau i bregethu Crist; ac yn ei hymyl, fe allai, y bydd eglwys o faintioli canolig wedi magu llu. Y mae cael gweithwyr i'r winllan yn ddiau yn beth y dylai pob eglwys amcanu ato. Gorchymynir yn bendant i ni wneud eu cael yn fater gweddi gerbron Duw. Mae y cynhauaf eto yn fawr, ac yn aeddfed, a dylid atolygu ar Arglwydd y cynhauaf anfon gweithwyr i'w gynhauaf. Ai tebyg, ynte, fod anamledd y pregethwyr a godant o ambell eglwys, yn dangos mor amddifad yw yr eglwys hòno o ysbryd gweddi? Neu ai prawf yw nad oes dim digon o laeth duwioldeb yn yr eglwys hòno i fagu meibion gwrol i Dduw. Y mae ymddygiadau ambell eglwys, hefyd, at bregethwr ieuanc fyddo hi ei hun wedi ei godi, yn gyfryw ag a fydd yn atalfa effeithiol iawn, o'i rhan hi, i unrhyw un arall i godi yno ar ei ol. Boed i'r eglwys brofi yr ysbrydion er gweled a ydynt o Dduw cyn beiddio rhoddi caniatâd iddynt bregethu; ond os caiff hi brawf digonol mai oddiwrth Dduw y maent yn dyfod; yna, er mwyn y Duw a'u danfonodd, rhodded bob cefnogaeth iddynt i fyned yn y blaen. Y mae eglwys Trewyddel yn sefyll yn anrhydeddus gyda golwg ar hyn. Ynddi hi y cododd y Parchedig-