Tudalen:Bywyd a gweithiau Azariah Shadrach.djvu/24

Gwirwyd y dudalen hon

gellid cael cynifer o gapeli mawrion, llawnion, a hardd, yn un ran arall o gyffelyb faintioli yn Nghymru ag a geir yn y parth crybwylledig. Ond, nid yn y parth hwn yr oedd Rhagluniaeth wedi bwriadu iddo ymsefydlu, na'i gyfaill ychwaith, y pryd hwnw. Yn y flwyddyn 1798, cymerodd daith arall ar ei draed i'r Gogledd, a phregethodd yn mhob capel perthynol i'r Annibynwyr, lle byddid arferol o bregethu Cymraeg. Diau y byddai hanes manwl o'r daith bregethwrol hon yn bur ddyddorol pe cawsai ei hysgrifenu yn fanwl. Gallwn gymeryd yn ganiataol fod llawer dygwyddiad chwithig, yn nghyda llawer helynt flin, wedi cymeryd lle cyn iddo ei gorphen. Ond er ein colled, nid oedd ysgrifenu hanes teithiau yn beth mor gyffredin y pryd hwnw ag ydyw yn awr. Erbyn hyn, mor wir a bod rhywun yn gadael ei dŷ i fyned ychydig oddicartref, y mae mor wir a hyny fod tebygolrwydd y ceir hanes ei daith mewn rhyw fisolyn neu bapyr newydd neu gilydd. A digrif, yn fynych,' yw sylwi ar yr hunanfoddhad a amlygir pan fyddo y teithwyr o un gymydogaeth i'r llall yn rhoddi adroddiad o'u teithiau. Y fath bethau pwysig a welsant! a'r fath fyfyrdodau a gylymir wrthynt! Ond er mor dda fyddai genym gael manylion y daith foreuol hon o eiddo Shadrach, eto ni chawsom ond ychydig o honi.. Clywsom, fodd bynag, ei fod un diwrnod yn myned heibio i efail gof: a dywedodd un o'n hawdurdodau mai yn Ngharno y bu'r peth, tra y tybia arall mai yn un o bentrefi erlidgar Arfon neu Ddinbych y bu. Gan ei fod yn teimlo ei feddwl yn isel, a'i galon yn ofnus, cyflymai heibio mor ddystaw ag y medrai. Ond cyn ei fod nemawr o ffordd, clywai rywun yn gwaeddi tu ol iddo; a chan ei fod yn tybio fod rhyw ddrwg yn agos, brasgamai yn mlaen yn gyflymach fyth. Parhäai y llef ar ei ol, a pharhäai yntau i gyflymu yn mlaen. Ond o'r diwedd trodd ei lygaid tros ei ysgwydd, ac er ei ddychryn, gwelai y gof â gwialen haiarn wenias o ganol y tân, yn rhedeg ar ei ol! Rhedai Shadrach ar hyn, a rhedai y gof ar ei ol; ac i wneud y drwg yn waeth, y gof oedd gyflymaf. Ond pan y disgwyliai Shadrach i'r haiarn poeth gael ei wthio i'w gefn, tarawodd y gof ei law ar ei ysgwydd yn garedig, a gofynai iddo, "Mr. Shadrach bach, be ydech chi yn rhedeg i ffwrdd fel ene? dowch i mewn atom ni i gael tamaid o fwyd." Yn lle ymosod yn erlidgar arno, fel yr ofnai Shadrach, trodd y gof hwn