Tudalen:Bywyd a gweithiau Azariah Shadrach.djvu/27

Gwirwyd y dudalen hon

o'r enw Cleiriau; a meddyliai mai efe oedd y cyntaf o'r Annibynwyr a bregethodd ynddynt. Am ryw reswm, symudodd o'r Dderwen i Benybont, Gelligoch—lle yn ymyl—a dywed wrthym fod Mr. Williams, Gelligoch, wedi bod yn ddigon caredig i roddi iddo fwyd a llety yn "rhad ac am ddim" yr holl amser y bu yno. Y mae yntau yn "dymuno i'r Arglwydd fendithio ei holl berthynasau â phob bendith ysbrydol yn y nefolion leoedd." Yr oedd y gŵr hwn yn dadcu i Mrs. Richard Cobden, A.S. Gwisgodd Shadrach yma gymeriad newydd—dechreuodd fod yn awdwr. Tra yn aros yma y cyhoeddodd ef ei "Allwedd Myfyrdod."

Cawsom hanesyn yn ddiweddar gan un o'i hen ysgolheigion, sydd yn gymhwys iawn i roddi cipolwg. arno fel ysgolfeistr.—Tra yn aros yn y Dderwenlas, yr oedd Shadrach wedi ymgymeryd âg addysgu mab i'r cymwynaswr uchod; a rhwymid ef gan y tad i beidio defnyddio y wialen tuag ato, ar unrhyw amgylchiad. Cymysgedd o dynerwch a ffolineb yn ddiau barodd i'r amod hon gael ei harosod; a thebyg iawn na fu y plentyn, yn anad neb arall, nemawr iawn ar ei fantais o honi. Y mae, tynerwch fol yn greulondeb yn y pen draw; a chreulondeb hefyd yw gwneud gwahaniaeth mawr rhwng plentyn a phlentyn. Yn ein golwg ni, hefyd, nid yw murio rhwng plentyn â chanlyniadau ei ddrygioni ond cefnogaeth iddo fod yn ddrycach nag o'r blaen. Ond gan fod Shadrach wedi cydsynio â'r amod, yr oedd ei chadw yn fater cydwybod ganddo. Ryw ddiwrnod, daeth y newydd i'w glustiau fod rhyw ysgelerwaith wedi ei gyflawni gan rai o'i ysgolheigion. Yn fuan, cafwyd allan pwy oedd yr euogion: ac, fel y gellid disgwyl, yr oedd y plentyn y soniwn am dano yn un o honynt. Penderfynodd Shadrach yn union beth oedd i'w wneud â'r lleill cospodd hwynt yn ol gofyniadau manylaf y gyfraith. Ond beth oedd i'w wneud â hwn oedd y pwnc? Byddai peidio cospi pechod yn neb, yn anghyfiawnder â llywodraeth yr ysgol; a byddai cospi ereill ac arbed hwn, heb ffordd briodol i wneud hyny, yn rhoddi lle i'r ysgolheigion gulfarnu uniondeb y llywydd. I ddangos pechod yn bechod, yr oedd yn rhaid cospi; ac i gadw at ei ymrwymiad â thad y plentyn hwn, yr oedd yn rhaid arbed yr euog. O'r diwedd, gwelodd drwy yr anhawsder:—er arbed yr euog yr