oedd yn rhaid i'r diniwed ddioddef. Yr oedd yn rhaid i AZARIAH daro SHADRACH!—mewn geiriau eraill, ymaflai yn y wialent â'i law ddehau, ac yn ddiarbed tarawai ei law aswy ei hun! Gweinyddai yr ysgolfeistr gospedigaeth mor drymed arno ef hun ag ar y troseddwyr gweithredol. Yn y modd hwn cadwyd llywodraeth yr ysgol ar ei thraed, ac arbedwyd yr euog yr un pryd. Nid ydym yn gwybod pa fodd y gallai Shadrach wneud athrawiaeth yr Iawn yn fwy dealladwy. Nid oedd hyn ond yr Iawn a Maddeuant yn cael eu portreiadu o flaen llygaid y plant. Erbyn hyn, yr oedd ei gyfaill, Daniel Evans, wedi ymsefydlu yn Mangor, a phregethai yn achlysurol yn Llanrwst a'r gymydogaeth. Ac y mae yn dra thebyg iddo ddylanwadu ar ei gyfaill Shadrach i symud i'r ardaloedd hyny: yr hyn hefyd a wnaeth, sef, i Drefriw, oddeutu dwy filldir o Lanrwst. Nid oedd gymaint a thy rhad i'w gael yma, serch bwyd, fel yn Gelligoch; ond cymerodd Shadrach dŷ yno ar rent i gadw ysgol ac i bregethu ynddo. Ond nid oedd pregethu yn Nhrefriw yn ddigon ganddo, eithr pregethai hefyd yn Porthllwyd, Llanrwst, ac ardal Capel Garmon. Yr oedd eglwys fechan wedi ei sefydlu yn yr ardal hon gan Dr. Lewis, Llanuwchllyn, ac yr oedd y Parch. Mr. Griffiths, Caernarfon, wedi sefydlu eglwys yn Mhorthllwyd. Ymddengys fod ysbryd erlidigaethus yn y gymydogaeth hon eto. Dywed Shadrach wrthym, ddarfod i ryw diyhirod ddirwyo y Parch. W. Hughes, wedi hyny o'r Dinasmowddu, o ugain punt, am bregethu yn yr ardaloedd hyny; a gorfu arno o'i angen dalu deg o honynt. Ymddengys fod Shadrach, ar y cyntaf, yn dra digalon yn ei faes newydd yn Nhrefriw; ac nid rhyfedd ychwaith, gan ei fod am rai misoedd yn cadw cyfeillach yno, heb neb ond tair o hen chwiorydd crefyddol i uno âg ef. Yr oedd yr amser hwnw yn ei gwneud yn fater gweddi ar fod i ryw wrryw gael ei dueddu i ddyfod atynt: ac atebwyd ei weddi, drwy ddyfodiad rhyw hen wr parchus, o'r enw Rowland Hughes; a daeth ereill yn fuan ar ei ol. Yr oedd y cangenau yn y Porthllwyd, Trefriw, a Chapel Garmon, yn arfer dyfod i Lanrwst bob mis i gymuno. Yr oedd ei weinidogaeth yn dra derbyniol yma. Wedi iddo fod am ychydig Sabbothau yn y gymydogaeth, aeth adref i Drewyddel; ac yn ei absenoldeb daeth un o'r enw Jane Jones, Pantsiglen, i
Tudalen:Bywyd a gweithiau Azariah Shadrach.djvu/28
Gwirwyd y dudalen hon