Tudalen:Bywyd a gweithiau Azariah Shadrach.djvu/29

Gwirwyd y dudalen hon

gyfarfod a gynelid yn y Bala, i ddymuno yn ngwydd y gweinidogion presenol, ar iddo ymsefydlu yn y gymydogaeth; a phan y gofynwyd iddi gan Dr. Lewis, "A oedd gobaith iddo gael tamaid o fara yno os deuai?" Atebodd "fod, tra fyddai ganddi hi damaid ar ei helw." Dengys hyn, mor bell ag y mae yn myned, y teimlad cynes oedd ato yn y gymydogaeth. Rhoddwyd galwad iddo gan yr eglwysi uchod, ac urddwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth yn hen gapel Llanrwst, oddeutu diwedd y flwyddyn 1802. Bu yn llafurus iawn yn y cylchoedd hyn. Yr oedd yn pregethu, neu yn cadw cyfeillach, agos bob nos o'r wythnos. Ond er ei holl lafur a'i ludded, nid oedd ei gyflog addawedig, wedi'r cwbl, ond pum punt y flwyddyn! Barned y darllenydd a ddylid gosod addewid Jane Jones tu cefn i hyn ai peidio.

Arferai Dr. Chalmers ddweyd fod Cristionogaeth i fod yn ymosodol, yn gystal ag yn amddiffynol;—rhaid iddi fyned i'r prif ffyrdd a'r caeau, i gymhell rhai i ddyfod i mewn, yn gystal a cheisio cadw yr hyn sydd ganddi. Ac yn sicr, os na wna hyn, buan iawn y dirywia, neu y derfydd yn hollol. Y mae bod yn ymosodol, nid yn unig yn beth unol âg ysbryd Cristionogaeth, ond hefyd yn hanfodol er ei pharhad. Felly hefyd y teimlai Shadrach, debygem; oblegyd gwnai bob lle y byddai yn aros ynddo fel gorsaf Genadol i dori allan o honi ar y ddeheu ac ar yr aswy; neu, mewn iaith filwrol, ystyriai y lle y byddai yn byw ynddo fel basis of operations er darostwng y cymydogaethau cylchynol. Dywed wrthym iddo bregethu llawer yn agos i Lanrhochwyn, a Llanddoged, a thu cefn i dŷ tafarn yn yr Eglwysfach. Bu hefyd yn pregethu yn Nolyddelen; ac er nad oedd ei gyflog addawedig ond pum punt yn y flwyddyn, eto, yr oedd yn talu swllt i hen wraig yn y pentref hwn bob tro y deuai iddo, am gael pregethu yn ymyl drws ei thŷ. Bu hefyd yn pregethu yn Ngholwyn, a thalodd swllt yma hefyd i ryw hen -wraig, am gael pregethu yn ymyl ei drws hithau. Yn mhen amser wedi hyn, sefydlwyd eglwys yn nhŷ yr hen wraig hon, gan y Parch. T. Jones, Moelfro. Cawn hanes ei fod un prydnawn Sabboth yn pregethu yn Metwsycoed, mewn Gwyl-mabsant. Yr oedd yma yn dangos ei fod yn meddu ar ysbryd gwir apostolaidd. Y mae y desgrifiad a rydd efe ei hun o'r amgylch-