Yn ochr y tŷ, cofier, ac nid o'i fewn, y cafodd ganiatâd; ond 'gan fod ei awydd mor fawr i gael meddiant o'r wlad, yr oedd yn dda ganddo gael caniatad yn rhywle. Ond enill y bobl fe geir lle. Wedi hyn, cymerodd dŷ bychan wrth bont Rhydlydan, er pregethu ynddo; a thalai o'i income bychan yr ardreth am dano, ei hun! Ac er fod oddeutu deng milldir o ffordd o Drefriw, eto, arferai fyned i Rydlydan bob nos Fawrth i bregethu. Ac er gwerthfawrogi ei ymdrechion rhaid i ni adfeddwl am yr amgylchiadau cysylltiedig â hwynt:—yr oeddynt yn ymdrechion dyn â llonaid ei freichiau o waith mewn lleoedd ereill—yn ymdrechion a ofynent lawer o lafur corfforol, heb son am groesau meddyliol; ac yn ymdrechion, nid yn unig heb ddod â dim i mewn i'w logell, ond o'r tu arall, yn myned a chryn lawer o honi. Er cael goleuni i bregethu "yn ei dŷ ardrethol ei hun," yr oedd yn gorfod cario canwyllau gydag ef am y deng milldir o Drefriw! Beth feddylia y darllenydd am hyn? Digwyddodd iddo weled mŵnwr neu lôwr, fe ddichon, lawer gwaith, yn cario ei ganwyll i'w lochesau tanddaearol; ond y mae yn debyg genym na chlywsant erioed o'r blaen am bregethwr dan orfodaeth i wneud rhywbeth fel hyn. Heblaw goleuni y gwir, yr oedd Shadrach yn cario gydag ef, hefyd, ddefnyddiau goleuni gwêr. Ac yr oedd rhagfarn y bobl mor fawr, fel nad oedd hi yn hawdd iddo gael goleuo ei ganwyllau wedi eu cario, ond yn nhŷ rhyw "hen ŵr serchog," medd efe, o dafarnwr, o'r enw Evan Jones. Daw rhyw ddaioni o Nazareth! Wele enghraifft, ddarllenydd, o dywydd llawer gwas i Dduw yn yr oes sydd wedi myned heibio.
Ac heblaw diffyg cefnogaeth fel hyn, y mae Shadrach yn rhoddi i ni dipyn o hanes gwrthwynebiad. Dywed wrthym ei fod yn pasio unwaith drwy bentref o'r enw Llanddulas, ryw foreu Sabboth, a gwnaeth ymchwiliad am le i bregethu yno; yr hyn, yn mhen ychydig, a gafodd gan ryw wraig dylawd oedd yn byw yno. Rhoddodd yntau swllt i was y tafarndŷ am ei gyhoeddi wrth ddrws y fynwent. Daeth llawer yn nghyd; a phan oedd yntau yn darllen ei destyn, daeth "dyn mewn dillad duon," ys dywed yntau, yn mlaen i geisio ei rwystro i bregethu. Ond aeth tymherau y gŵr hwn yn rhy wylltion i barhau i aflonyddu arno yn hir—aeth ymaith. Pan oedd ryw dro arall