Tudalen:Bywyd a gweithiau Azariah Shadrach.djvu/33

Gwirwyd y dudalen hon

eu bod. Yr oedd yr ateb syml hwn yn peri syndod mawr i lawer, am y tybient eu bod yn ymrwymo i ganlyn Shadrach ei hun! Dyma, ddarllenydd, ryw fras linelliad o fywyd a helyntion Azariah Shadrach, o'i ddyddiau boreuol yn y Deheudir, hyd ei symudiad yn ol i'r Deheudir o Lanrwst, yr hyn a wnaeth yn y flwyddyn 1806.

PENNOD II.

Y MAE gwahaniaeth mawr rhwng ambell i fywyd a'i gilydd: Nid ydym yn cyfeirio yn gymaint at y cymeriad moesol fyddo, bywydau yn ei ddwyn; ond at y defnyddiau, neu'r stuff, sydd yn gwneud y bywyd i fyny. Cyfansoddir ambell i fywyd o ryw olyniaeth ddidor o amgylchiadau a gweithredoedd cyffelyb. Gellwch, oddiwrth yr hyn fyddoch yn ei wybod eisoes am dano, ffurfio drychfeddwl go gywir am y gweddill o hono. Fel y mae yr afon sydd yn rhedeg trwy y doldir, yn dawel a digynhwrf, felly hefyd y mae yntau. Ond dynodir un arall gan ryw newydd—der diddiwedd. Y mae pob gweithred ac amgylchiad fel yn eich hèrio i ragddywedyd pa fath rai fydd y nesaf. Mae gwreiddiolder yn nodwedd ar y cyfan; ac ar. ddiwedd pob cyfnod, gellwch fentro dyweyd,—Yr hyn a fu ni fydd. Os yw y blaenaf yn debyg i afon mewn doldir, y mae hwn yn debycach i lifeiriant gorwyllt o ben mynydd, yn disgyn ar hyd y llethrau a thros y clogwyni yn mhob ffurf a llun. Yn gyffredin, y bath blaenaf o fywyd sydd yn fwyaf defnyddiol;—hwn sydd yn gadael yr argraff dyfnaf ar y rhai fyddant o fewn cylch ei ddylanwad. Gyda golwg ar fywyd, gallwn ddyweyd yn benodol yn ol yr hen ddiareb Gymreig, "Dyfal gnoc a dyr y graig." Ond os hwn yw y mwyaf. defnyddiol, y llall yw y goreu i'r bywgraffydd. Mae y newyddder didor a nodwedda y bywyd yn rhoddi swyn i'r desgrifiad o hono. Teflir y darllenydd i ganol amgylehiadau nad oedd