ganddo yr un disgwyliad o'r blaen am danynt; ac felly hudir ef yn y blaen yn ddiarwybod iddo ei hun. Yn awr, y mae bywyd Azariah Shadrach yn perthyn i'r dosbarth blaenaf, yn hytrach na'r olaf—i'r defnyddiol, yn hytrach nag i'r hynod. Nid am nad oedd ei fywyd yn hynod oddiwrth eiddo pobl ereill; ond am fod cymaint o gyffelybrwydd rhwng gwahanol ranau ei fywyd ei hun, fel nas gallwch ddyweyd fod y naill ran o hono yn hynod oddiwrth y llall. Yr ydym eisoes wedi rhoddi un darn o hanes ei fywyd; a chan y bydd y gweddill yn lled debyg, nid ydym heb radd o ofn nas gallwn gadw i fyny ddyddordeb y darllenydd.
Yn mis Tachwedd, 1806, symudodd Shadrach i Dalybont, Ceredigion, i arolygu yr eglwys ieuanc oedd newydd gael ei sefydlu yno, yn nghyd a'r eglwys a sefydlasid ychydig yn flaenorol i hyny yn Llanbadarn; wedi bod yn llafurio yn Llanrwst a'r cymydogaethau oddeutu pedair blynedd. Cam pwysig i weinidog ydyw symud: a cham ydyw na ddylid ar un cyfrif ei gymeryd heb lawer o ystyriaeth. Wrth aros yn yr un man, y mae ar ffordd deg i ddyfod i fedi mewn amser o'i lafur ei hun, drwy fod yr eglwys yn dyfod i fyny yn raddol at yr hyn yr amcanodd ei chael, mewn duwioldeb a threfn. Daw ef i adnabod yr eglwys yn well; ac felly bydd ar dir mwy manteisiol i wneud daioni iddi. Daw yr eglwys hefyd i feddu adnabyddiaeth gywirach o hono yntau; ac os yn ddyn da, ac yn weinidog teilwng, bydd yn hawddach ganddi ymddiried ynddo. Ond gan nad beth ellir ddweyd yn erbyn symudiadau, mae yn ddiau fod amgylchiadau weithiau yn bodoli ydynt, 'nid yn unig yn eu cyfreithloni, ond hefyd yn galw am danynt. Mae yn bosibl fod dyn yn cael allan mewn amser, drwy brofion diymwad, nad yw yr eglwys ac yntau yn taro eu gilydd. Ac y mae amgylchiadau, weithiau, nad oes gan ddyn yr un reolaeth arnynt, yn cyfyngu ar fesur ei ddefnyddioldeb, ac yn blwm i wneud ei ymdrechion mwyaf egniol yn ddieffaith. A chan nad yw galluoedd a chymhwysderau dyn yn cael eu dadblygu ar unwaith, y mae llawer un ar y cyntaf yn ymsefydlu mewn lle gwan, ac mewn ardal gyfyng ac anmhoblogaidd, ac erbyn iddo, drwy ddiwydrwydd ac ymroddiad, dyfu i'w gyflawn faintiolaeth, y mae dyledswydd yn galw yn awdurdodol