arno i gymeryd ei safle mewn cylch eangach. Nid ydym yn sicr ein bod yn gwybod paham y cymerwyd y cam hwn gan Shadrach; ond, a barnu y weithred wrth ei chanlyniadau, gallem feddwl iddo wneuthur yn ddoeth. Mae rhyw bobl o feddyliau culion yn y dyddiau presenol yn gwybod yn mlaenllaw, cyn chwilio dim i'r amgylchiadau, paham y mae pob gweinidog yn symud. Onid cariad at arian sydd yn eu cymhell? Rhaid i'r chwilen fod bob amser yn y baw! Ond oddiwrth yr hyn a welsom eisoes, os bu symud er mwyn arian yn gyfreithlon i neb erioed, y mae yn ddiau ei fod felly i Shadrach. Gorchwyl lled anhawdd oedd cael "dau pen y llinyn" yn nghyd ar y gyflog addawedig o bum' punt yn y flwyddyn. A ydyw y darllenydd yn gofyn faint addawyd iddo yn ei le newydd? Wel, er ei foddhau, caiff y llen ei thynu, yn atebiad iddo. Dyma eiriau Shadrach ei hun:—"Dwy bunt y chwarter oedd yr eglwys yn addaw í mi ar y cyntaf; ond os gwnawn gasglu digon o arian i dalu dyled y capel, y cawswn dair punt y chwarter." Dyna'r addewid, a dyna fu'r cyflawniad. Ond, i fod yn fanwl yn y mater arianol yma, cofier mai addewid eglwys Talybont oedd hona; ac yr oedd eglwys Llanbadarn ganddo heblaw, (nid yr eglwys blwyfol yn Llanbadarn, cofier— byddai tipyn o frasder oddiwrth hono—ond yr eglwys Annibynol yn y lle,) yr hon oedd eto mewn babandod ac eiddilwch. Tarawsom yn ddiweddar wrth hen lyfr cyfrifon yr eglwys hon, a mawr oedd yr hyfrydwch a gawsom wrth edrych dros y cofnodion o'i thaliadau i Shadrach fel ei gweinidog. A'u rhoddi yn yr iaith yr ysgrifenwyd hwynt, yr oeddynt ryw fodd fel hyn:—" Pd. Mr. Shadrach for the 1st. quarter, £1 15s.; do. 2nd quarter, £1 7s.," ac felly yn y blaen, weithiau yn fwy, ac weithiau yn llai, nes y cyrhaeddent mewn dull tra Gwyddelig, the 8th and the 9th quarter. Ond, cofied y darllenydd, nid oedd yr holl chwarteri hyn, a'r symiau perthynol iddynt, yn cael eu gwasgu i'r un flwyddyn ychwaith.—Cymaint a hyna ar gysylltiadau arianol y symudiad. Ond teimlwn fod dyledswydd yn galw arnom i ddweyd, mai nid fel y gwnelai yr eglwysi hyn yn eu babandod y gwnant heddyw.
Yr oedd Shadrach erbyn hyn yn ŵr priod ac yn benteulu; ac yr oeddym yn teimlo, ddarllenydd, fod galwad arnom i fod