Drewen, am y rhan dde—orllewin iddi, yn cyrhaedd o Castell— newydd—Enlyn i'r Ceinewydd.[1] Gofalai Dr. Phillips am y rhan ogledd—orllewin iddi, o'r Ceinewydd i Bont Llyfnant, pedair milldir o Fachynlleth. A gofalai y Parch. Phillip Morris, Ty'nygwndwn, am y rhan ddwyreiniol o honi, gan gymeryd ei safle oddeutu cymydogaeth Llanbedr. Fel yr oedd gweinidogion cymhwys yn lliosogi, a'u llafur hwythau yn llwyddo, yr oedd yr esgobaethau hyn yn cael eu rhanu a'u hadranu drachefn, nes y mae nifer y gweinidogion erbyn heddyw oddeutu tri-ar-ugain. Y rhaniad cyntaf ar esgobaeth Dr. Phillips ydoedd, pan roddodd y rhan ogleddol o honi i ofal Shadrach, ar ei ddyfodiad i Dalybont; ac yn ol golygiadau y dyddiau presenol, yr oedd hon yn anferthol fawr. Cyrhaeddai o Ddyffryn Paith at Bont Llyfnant, ac o Benybont i odreu Plynlymon—rhyw barth o wlad yn cynwys oddeutu cant a haner o filldiroedd ysgwâr. Dywed Shadrach am y trigolion, eu bod yn hynod o dywyll; ond er ei gysur ef, a'u hanrhydedd hwythau, nid oeddynt yn erlidigaethus. Er nad oedd yn cael fawr o'u harian, eto dywed wrthym eu bod yn gymwynasgar iawn. Yr oedd y gwrthwynebiadau a gafodd o'r blaen yn ei gymhwyso ef yn ddiau i werthfawrogi y cymwynasgarwch hwn.
Yr oedd gwaith mawr i'w wneud ar y maes eang hwn; ac ymddengys i ni fod Shadrach yn un o'r rhai cymhwysaf ato, Y mae yn ddiau nad yw pob un cymhwys ddim yn gymhwys at yr un peth. Nid mater o ddigwyddiad oedd fod Paul yn planu, ac Apolos yn dyfrhau. Diau fod y Gwinllanydd mawr, nid yn unig yn codi dynion cymhwys i'r winllan, ond hefyd yn eu harwain i'r rhan hono o'r winllan y byddont yn fwyaf cymhwys ati. Os ydym yn deall cymeriad Shadrach yn iawn, yr oedd cyfansoddiad ei feddwl, poblogrwydd ei ddull o bregethu, a'i weithgarwch diflino, yn ei gymhwyso yn neillduol at faes fel hwn, Yr un ydoedd Shadrach yma ag ydoedd yn Llanrwst; a'r un modd y gweithredai. Gan fod y wlad heb
- ↑ Heblaw y rhai hyn, dylid nodi fod y Parch. Griffith Griffiths yn gweinidogaethu yn Llechryd y pryd hwn. Ond nid oedd yr eglwys hon yn addefedig Annibynol, nac uniongred, hyd y flwyddyn 1828, pan gymerwyd ei gofal gan y Parch. Daniel Davies, Aberteifi.